Will & Grace: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Golygu cyffredinol (manion), replaced: ennillodd → enillodd, Ennillodd → Enillodd, a dros → a thros using AWB
 
Llinell 18:
|}}
 
Rhaglen [[comedi|gomedi]] boblogaidd o'r [[Unol Daleithiau]] ydy '''''Will & Grace'''''. Darlledwyd y rhaglen yn wreiddiol ar [[NBC]] o [[1998]] tan [[2006]]. EnnilloddEnillodd y sioe [[Gwobr Emmy|Wobr Emmy]]. Lleolir y rhaglen yn [[Dinas Efrog Newydd|Ninas Efrog Newydd]] ac mae'r sioe'n ymdrin â Will Truman, cyfreithiwr [[hoyw]] a'i ffrind gorau Grace Adler, menyw [[heterorywiol]] [[Iddewon|Iddewig]] sy'n berchen ar ei chwmni dylunio cartrefi ei hun. Mae ffrindiau'r ddau hefyd yn chwarae rhan flaenllaw sef Karen Walker, cymdeithaswraig hynod gyfoethog, a Jack McFarland, actor hoyw sy'n ei chael yn anodd ffeindio gwaith.
 
Will & Grace yw'r gyfres deledu rhwydweithiol gyntaf i arddangos un neu fwy o gymeriadau hoyw fel y prif gymeriadau fel rhan o gysyniad y sioe. Dyma'r gyfres fwyaf llwyddiannus i wneud hyn hefyd, er gwaethaf y feirniadaeth gychwynnol o'r modd y darluniwyd pobl hoyw. Yn ystod yr wyth mlynedd y cafodd y sioe ei chreu, ennilloddenillodd Will & Grace wyth Gwobr Emmy, allan o 83 enwebiad yn gyfangwbl.
 
Ffilmiwyd Will & Grace o flaen cynulleidfa stiwdio fyw (y rhan fwyaf o benodau a golygfeydd) ar nosweithiau Mawrth ar Lwyfan 17 yng Nghanolfan Stiwdios CBS.
Llinell 35:
 
'''Jack McFarland''' ''([[Sean Hayes (actor)]])''
Un o ffrindiau gorau Will, mae Jack yn arwynebol a drosthros ben llestri. Symuda Jack o'r naill gariad i'r nesaf, o swydd i swydd gan gynnwys [[actor]] di-waith, gweithio mewn siop ac fel myfyriwr i fod yn nyrs. Yn nechreuadau'r sioe, datblyga Jack berthynas glos â Karen.
 
'''Karen Walker''' ''([[Megan Mullally]])''