Y Greal Santaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎top: Golygu cyffredinol (manion), replaced: yn ran → yn rhan using AWB
Llinell 3:
Yn ôl mytholeg [[Cristnogaeth|Gristnogol]], '''y Greal Santaidd''' neu'r '''Sangreal''' oedd y llestr a ddefnyddiodd [[Iesu]] yn y [[Swper Olaf]]. Dywedid fod gan y llestr yma alluoedd goruwchnaturiol.
 
Crybwyllir y Greal gyntaf yn ''[[Perceval, le Conte du Graal]]'' gan Chrétien de Troyes, sy'n dyddio rhwng [[1180]] a [[1191]]. Cysylltir y Greal Santaidd yn aml a [[Joseff o Arimathea]]; ymddengys fod hyn yn dyddio o ''Joseph d'Arimathie'' gan [[Robert de Boron]] yn ddiweddar yn y [[12g]], lle dywedir i Joseff dderbyn y Greal gan weledigaeth o'r Iesu a'i yrru gyda'i ddilynwyr i [[Ynys Brydain]]. Mewn fersiynau diweddarach, dywedir i Joseff ddefnyddio'r Greal i gasglu gwaed Iesu wrth ei gladdu. Daeth hanes y Greal yn ranrhan bwysig o'r chwedlau ynghlwm wrth y brenin [[Arthur]], gan ymddangos gyntaf yn y cyswllt yma yng ngwaith [[Chrétien de Troyes]].
 
Cred rhai ysgolheigion, er enghraifft [[Roger Sherman Loomis|R. S. Loomis]], fod hanes y Greal yn deillio o ffynhonnell [[Y Celtiaid|Geltaidd]], gan gymharu'r llestr â'r cyfeiriadau niferus yn y chwedlau Celtaidd at beiriau rhyfeddol fel y [[Pair Dadeni]], a'r peiriau hynny yn eu tro yn cynrychioli'r [[duwies]]au Celtaidd a gysylltir â ffrwthlondeb, dadeni, a ffynhonnell ddihysbydd bywyd ei hun. Cred eraill mai dim ond tarddiad Cristnogol sydd i'r chwedl.