Y Rhyfel Byd Cyntaf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎1918: Golygu cyffredinol (manion), replaced: cymeryd → cymryd using AWB
Llinell 77:
Ar [[21 Mawrth]], dechreuodd y fyddin Almaenig dan y cadfridog [[Erich Ludendorff]] ymosodiad newydd yn y gorllewin, i geisio rhoi diwedd ar y rhyfel cyn i fwy o luoedd yr Unol Daleithiau gyrraedd. Cawsant gryn lwyddiant, a dynesodd y ffrynt hyd at 120 km (75 milltir) o ddinas [[Paris]]. Ar ôl ymladd caled, llwyddodd y cyngheiriaid i sefydlogi'r ffrynt.
 
Dechreuodd gwrthymosodiad y cyngheiriaid ar [[8 Awst]], gyda byddinoedd Prydain, Ffrainc, Awstralia a Chanada yn cymerydcymryd rhan ym [[Brwydr Amiens|Mrwydr Amiens]], gyda 414 o danciau a 120,000 o filwyr. Erbyn yr Hydref, roedd gallu'r Akmaen a'i chyngheiriaid i barhau'r rhyfel bron ar ben. Arwyddodd [[Bwlgaria]] gadoediad ar [[29 Medi]], ac ar [[30 Hydref]] ildiodd Ymerodraeth yr Ottomaniaid. Ar [[24 Hydref]] dechreuodd byddin [[yr Eidal]] ymosodiad newydd yn erbyn Awstria-Hwngari, a dinistriwyd byddin Awstria-Hwngait ym [[Brwydr Vittorio Veneto|Mrwydr Vittorio Veneto]]. Ar [[3 Tachwedd]] gofynnodd Awstria-Hwngari am gadoediad,
 
Bu chwyldro yn yr Almaen, a chyhoeddwyd gweriniaeth ar [[9 Tachwedd]]; ffôdd y Kaiser [[Wiliam II, ymerawdwr yr Almaen|Wilhelm II]] i'r [[Iseldiroedd]]. Arwyddwyd cadoediad a'r Almaen yn Compiègne, ac am unarddeg y bore ar [[11 Tachwedd]] 1918 daeth y rhyfel i ben.