Siart llinell: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Newydd
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Cubicpoly.svg|bawd|Enghraifft o siart llinell.]]
Mae '''siart llinell''' neu 'graff llinell' yn fath o siart sy'n dangos gwybodaeth fel cyfres o bwyntiau [[data]] o'r enw 'marcwyr', sy'n cysylltu segmentau neu rannau o linell.
 
Dyma'r math symlaf a mwyaf sylfaenol o'r holl siartiau a geir, ac fe'i defnyddir mewn sawl maes. Defnyddir siart llinell yn aml i weld tueddiad mewn data dros gyfnod o amser - a elwir yn 'gyfres amser' - felly mae'r linell yn aml yn cael ei thynnu'n gronolegol. Yn yr achosion hyn fe'u gelwir yn "siartiau rhedeg".<ref>Burton G. Andreas (1965). ''Experimental psychology''; tud.186</ref><ref>Neil J. Salkind (2006). ''Statistics for People who (think They) Hate Statistics: The Excel Edition''; tud. 106.</ref>