Sachalin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'bawd|250px|Saif Sachalin rhwng tit mawr Rwsia a Japan Ynys ger arfordir dwyreiniol Rwsia yw '''Sachalin''', hefyd '''S...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 06:15, 21 Awst 2009

Ynys ger arfordir dwyreiniol Rwsia yw Sachalin, hefyd Sakhalin (Rwseg: Сахали́н). Saif rhwng Môr Ochotsk a Môr Japan. Hi yw'r fwyaf o ynysoedd Rwsia. Gydag ynysoedd y Kurile mae'n ffurfio oblast Sachalin, un o ranbarthau Rwsia.

Saif Sachalin rhwng tit mawr Rwsia a Japan

Mae arwynebedd yr ynys yn 76,400 km2, a'r boblogaeth tua 673,000. Y ddinas fwyaf, a phrifddinas yr oblast yw Joezjno-Sachalinsk, yn ne yr ynys. Gwahenir yr ynys oddi wrth dir mawr Rwsia gan Gulfor Tatar, sy'n 7.3 km yn ei fan gulaf, ac yn rhewi yn y gaeaf, tra mae Culfor La Pérouse yn ei gwahanu oddi wrth Hokkaido, yr agosaf o ynysoedd Japan.

Arferai'r ynys fod yn eiddo Tsieima, er i Japan geisio ei meddiannu hefyd. Meddiannodd Rwsia yr ynys o'r 18fed ganrif ymlaen, ond parhaodd rhan o dde yr ynys ym meddiant Japan hyd 1875.