Huw Stephens: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
Sŵn
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
Cyflwynwr radio ydy '''Huw Stephens''' yn bennaf, yn troi ym myd [[cerddoriaeth]]. Ganwyd ef yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]] yn [[1981]] ac mae'n fab i'r llenor [[Meic Stephens]]. Mae Huw yn cyflwyno rhaglen [[C2]] ar [[BBC Radio Cymru]], ac mae hefyd yn cyflwyno'r rhaglen deledu ''[[Bandit]]'' ar [[S4C]].
 
==Bywgraffiad==
Dechreuodd Huw ar yr awyr yn [[1999]], pan oedd yn ddim ond 17 oed, ar [[BBC Radio 1|Radio 1]] fel rhan o'u darlledu rhanbarthol newydd yng [[Cymru|Nghymru]]. Cyflwynodd ar y cyd gyda [[Bethan Elfyn]], ac roedd y cyflwydydd ieuengaf erioed i weithio ar Radio 1.
 
Llinell 9 ⟶ 10:
Sefydlodd Huw label recordio [[Boobytrap Records]] yn [[2000]] ynghyd â ffrind, ond daeth y label i ben yn [[2007]]. Mae rwan yn ysgrifennu a rhedeg label [[Am]].<ref>{{eicon en}} [http://www.myspace.com/huwstephens Safle MySpace Huw Stephens]</ref>
 
Sefydlodd ŵyl gerddoriaeth newydd ar gyfer Caerdydd yn 2007. Cynhaliwyd [[Sŵn (gŵyl)|Sŵn]] am y tro cyntaf ar [[9 Tachwedd|9]]&ndash;[[11 Tachwedd]] [[2007]] mewn 13 lleoliad ar draws y ddinas. Mae'r ŵyl yn dod a bandiau, DJs a pherfformwyr cyffrous, o Gymru a ledled Prydain, at eu gilydd i ganol Caerdydd ynghyd a chelf a ffilm.
 
Mae gan Huw golofn wythnosol ym mhapur newydd y [[Western Mail]]. Yn ôl ei dad, "Pan oedd e'n ifanc iawn, ac yn dechrau ysgrifennu, roeddd e'n dueddol o ysgrifennu ar ddarnau o bapur o gwmpas y tŷ. Dw i'n cofio gweld nodyn un tro yn dweud, 'Ai opynd ddy dôr and ai dropt on ddy fflôr'!"<ref>O'r sioeau hud i gerddoriaeth byd: Portread o Huw Stephens, [[Golwg]], [[18 Hydref]] [[2007]]</ref> Mae hefyd wedi ysgrifennu ar gyfer [[Kruger Magazine]], [[The Independent]], [[The Mirror]], [[NME]] ac mae wedi bod yn olygydd gwadd ar gfer blog cerddoriaeth [[The Guardian]].
 
== Dolenni Allanol ==