Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gorsedd Beirdd Ynys Môn"

Lleihawyd o 20 beit ,  2 flynedd yn ôl
dim crynodeb golygu
==Hanes==
 
Cynhaliwyd yr eisteddfod gynharaf yn [[1176]], pan gynhaliodd [[yr Arglwydd Rhys]] gyfarfod cystadleuol o feirdd, cerddorion a pherfformwyr yn ei gastell yn [[Aberteifi]]. Ond nid tan y 18fed a'r 19eg ganrif y bu'r eisteddfod mewn ffurf y gellir ei hadnabod fel rhagflaenydd i'r Eisteddfod Genedlaethol fodern. Sefydlwyd [[Gorsedd Beirdd Ynys Prydain]] yn [[1792]] gan [[Edward Williams]] 1747-1826 [1]) a chynhaliwyd seremoni gyntaf yr Orsedd honno ar [[Bryn Briallu|Fryn Briallu]] (Primrose Hill), [[Llundain]] ar 21 [[Mehefin]] [[1792]]. Cynhaliwyd yr Orsedd gyntaf yng Nghymru yn [[1795]] ac ymddangosiad cyntaf yr Orsedd mewn eisteddfod oedd yng Ngwesty’r Llwyn Iorwg (Ivy Bush), [[Caerfyrddin]] yn [[1819]]. Dechreuodd cysylltiad yr Orsedd â’r [[Eisteddfod Genedlaethol]] yn [[Dinbych|Ninbych]] yn [[1860]].
 
==Blynyddoedd cynnar==
 
Tyfodd a datblygodd yr Orsedd fel ei bod bellach yn rhan o ddiwylliant [[Cernyweg]], [[Llydaweg]], [[y Wladfa]] ym [[Patagonia|Mhatagonia]] ac mae iddi gysylltiadau a’r Mod (Am Mòd Nàiseanta Rìoghail) yn [[Yr Alban]] a’r Oireachtas (Orieachtas na Gaeilge) yn [[yr Iwerddon]]. Gwelir fersiwn ohoni mewn sawl eisteddfod drwy Gymru.
Er mai dyfais ddi-sail [2] oedd yr Orsedd yn wreiddiol [3], a phrofwyd hynny gan yr Athro G.J. Williams [4], y mae yn rhan annatod o seremonïau Eisteddfod Gadeiriol Môn [5].
Ymddangosai fersiwn o’r Orsedd yn eisteddfodau cynnar Môn ond sefydlwyd Cymdeithas Gorsedd Beirdd Môn yn [[1920]], yn Eisteddfod Gadeiriol Môn [[Llannerch-y-medd]] [6].
Cymdeithas o feirdd, llenorion, cerddorion a phobl nodedig eraill o fyd diwylliannol yr ynys yw Gorsedd Beirdd Môn a’r aelodau yn perthyn i dair carfan wahanol: