Bara rhyg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Heulfryn (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
 
Roedd bara rhyg yn cael ei ystyried yn un o brif fwydydd yr [[Oesoedd Canol]]. Y [[Sacsoniaid]] a'r [[Daniaid (llwyth Almaenig)|Daniaid]] gyflwynodd rhyg i ynysoedd [[Prydain Fawr|Prydain]] o gwmpas 500 OC, ac roedd yr [[hinsawdd]] yn addas ar gyfer ei dyfu yno.<ref>{{Cite web|url=http://www.organicgardening.com/learn-and-grow/grains-growing-guide|title=Growing Grains: Wheat, Spelt, Oats, Barley, Rye and More|access-date=2013-05-26|publisher=Organic Gardening}}</ref>
 
Gwelir cyfeiriadau at fara du mewn dogfennau o'r 17g. Sôn am fara rhyg y mae'r rhain, a defnyddid y term 'du' i wahaniaethu bara rhyg a bara gwenith, a elwid yn 'fara gwyn' - er bod y bara'n nes at liw bara blawd cyflawn heddiw. Tyfid rhyg mewn ardaloedd yn [[Sir Gaernarfon]] yn y 17g nad oeddynt yn ddigon ffrwythlon i ganiatáu tyfu gwenith. Ar diroedd salach fyth, tyfid dim ond ceirch. Tueddai pobl i fwyta'r hyyn oedd ar gael iddynt yn lleol, asc felly bara du rhyg oedd y bara a fwytid gan bobl rhannau yr iseldir lle nad oedd y tir o'r ansawdd gorau.<ref>G H Williams, ''Farming in Stuart Caernarfonshire'', TCHS (Cyf 42, 1981), t.73.</ref>
 
Mae nifer o wahanol fathau o rawn rhyg wedi dod o ogledd a chanolbarth [[Ewrop]], gan gynnwys [[Llychlyn]], [[Y Ffindir]], [[Gwledydd Baltig|Y Gwledydd Baltig]], [[Gwlad Pwyl]], [[Yr Wcráin|Wcrain]], [[Rwsia]], yr [[Yr Iseldiroedd|Iseldiroedd]], [[Gwlad Belg]], [[Ffrainc]], [[Y Weriniaeth Tsiec]], [[Yr Almaen]] ac mae hefyd yn nodweddiadol o [[Cantons y Swistir|ganton]] [[Valais]] yn [[Y Swistir]].