Llythrennedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: war:Inadman
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: la:Alphabetismus; cosmetic changes
Llinell 2:
'''Llythrenedd''' yw'r gallu i ddarllen ac [[ysgrifennu]]. Mae canrannau llythrenedd yn amrywio'n fawr o wlad i wlad ac yn cael ei gyfrif fel un o'r mynegeion datblygu gan gyrff fel [[UNESCO]], er enghraifft yr [[Indecs Datblygiad Dynol]]; mewn gwledydd cyfoethog mae bron pawb yn meddu ar lythrenedd tra bod lefelau llythrenedd mor isel â 10-15% mewn rhai gwledydd tlawd, yn bennaf yn yr [[Affrica]] is-Saharaidd. Yn y gorffennol ychydig iawn o bobl oedd yn medru darllen a sgwennu, a'r rhan fwyaf yn perthyn i'r dosbarthiadau breintiedig neu'n offeiriaid. Erbyn heddiw mae bod yn anlythrennog yn anfantais fawr yn y byd ac yn debyg o gadw pobl mewn [[tlodi]].
 
== Arolwg o lythrenedd yn y gorffennol ==
Yn y gorffennol roedd [[India]] a [[Tsieina]] yn mwynhau lefelau cymharol uchel o lythrenedd. Roedd [[prifysgol]]ion fel yr un [[Bwdhaeth|Fwdhaidd]] enwog yn [[Nalanda]], gogledd India, yn addysgu disgyblion o bob rhan o [[Asia]] gyda phobl yn barod i deithio ymhell er mwyn cael [[addysg]].
 
Llinell 17:
Yng [[Cymru|Nghymru]], saethodd y lefel llythrenedd i fyny yn y [[18fed ganrif]], pan ddechreuodd [[Griffith Jones (Llanddowror)|Griffith Jones]] redeg ei [[Ysgolion cylchynnol]], gyda'r bwriad o gael pawb o'r werin i fedru darllen y Beibl yn [[Gymraeg]]. Mae'n bur debyg fod gan Gymru'r lefel uchaf o lythrenedd yn y byd yn [[1750]], a hynny er gwaethaf y ffaith fod yr ysgolion swyddogol yn uniaith Saesneg.
 
== Anlythrenedd heddiw ==
[[Delwedd:World-Literacy-Rate-1970to2015.TC.png|320px|bawd|Lefelau anlythrenedd 1970-2015 (amcangyfrif)]]
Mae nifer o gyrff ac unigolion wedi lleisio eu consyrn am lefelau anlythrenedd ym mhoblogaeth y byd, er gwaethaf y ffaith fod canrannau llythrenedd wedi codi'n gyson dros y degawdau diwethaf, yn abennig yn y [[trydydd fyd]]. Eithriad i'r drefn arferol oedd y gwledydd hynny yn y trydydd fyd a ddilynai [[ideoleg]] [[Marcsaidd]] ([[Gweriniaeth Pobl China]], [[Cuba]], a [[Fiet Nam]], er enghraifft), a brofasant dyfiant ymhlith y mwyaf syfrdanol yn hanes y byd, gan agosáu at y lefelau a geir yng [[Canada|Nghanada]] ac Ewrop (ers degawdau mae lefel llythrenedd Cuba yn uwch na'r lefel yn yr [[Unol Daleithiau]]). Yn ôl diffiniad y [[Cenhedloedd Unedig]] o anlythrenedd fel "bod heb fedru darllen neu sgwennu brawddeg elfennol mewn unrhyw iaith," roedd 20% o boblogaeth y byd yn anlythrennaidd yn [[1998]], gyda'r mwyafrif ohonynt yn byw yn [[Affrica]] islaw y [[Sahara]] a rhannau o [[Asia]].
 
== Dolenni allanol ==
*[http://www.unesco.org/education/literacy Porth Llythrenedd UNESCO]
 
Llinell 51:
[[ja:リテラシー]]
[[ko:문해]]
[[la:Alphabetismus]]
[[lmo:Alfabetizaziun]]
[[ml:സാക്ഷരത]]