Yswiriant: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[File:Accidents_will_happen_William-H.-Watson-Universal-Star-Featurette-1922.webm|bawd|<span>Mae </span>''Accidents will happen'' (William H. Watson, 1922) yn ffilm fud slapstic am ddulliau ac anffodion brocer yswiriant. Casgliad EYE Film Institute Netherlands.]]
<span>Mae </span>'''yswiriant '''yn ffurf aro amddiffyniad rhag colled ariannol. Mae'n cael ei ddefnyddio i reoli risg, yn bennaf  yn erbyn y risg o golled annisgwyl.
 
Mae endid sy'n darparu yswiriant yn cael ei alw'n yswiriwr, cwmni yswiriant, cludwr yswiriant neu warantwr. Mae'r person neu endid sy'n prynu'r yswiriant yn cael ei adnabod fel y sawl sydd wedi'i yswirio neu ddeiliad polisi. Mae'r sawl sy'n cael ei yswirio yn derbyn colled fechan sicr a hysbys ar ffurf taliad i'w yswiriwr er mwyn derbyn addewid gan yr yswiriwr y byddai'n ei ddigolledu pe byddai'r risg o golled fwy yn cael ei gwireddu. Gallai'r golled fod yn ariannol neu beidio, ond mae'n rhaid gallu ei drafod mewn termau ariannol, ac mae fel arfer yn ymwneud a rhywbeth y mae gan y sawl sy'n cael ei yswirio fudd ynddo trwy berchnogaeth, eiddo neu berthynas.
 
Mae'r sawl sy'n cael ei yswirio yn derbyn cytundeb sy'n cael ei alw'n bolisi yswiriant ac yn cynnwys manylion yr amodau ac yn disgrifio o dan amgylchiadau y byddai'r yswiriwr yn ei ddigolledu. Mae swm yr arian sy'n cael ei godi am yr yswiriant yn cael ei nodi yn y polisi yswiriant a'i alw'n premiwm. Os yw'r sawl sydd wedi'i yswirio yn wynebu colled sy'n dod o dan y polisi, mae'n cyflwyno cais i'r yswiriwr i'w brosesu gan aseswr ceisiadau.  Gall yr yswiriwr gael sicrwydd yn erbyn risg ei hun trwy gymryd adyswirianr, ble mae cwmni yswiriant arall yn cytuno i ysgwyddo peth o'r risg, yn arbennig os yw'r prif yswiriwr yn ystyried y risg yn rhy fawr i'w ysgwyddo ei hun.
 
[[File:Accidents_will_happen_William-H.-Watson-Universal-Star-Featurette-1922.webm|bawd|<span>Mae </span>''Accidents will happen'' (William H. Watson, 1922) yn ffilm fud slapstic am ddulliau ac anffodion brocer yswiriant. Casgliad EYE Film Institute Netherlands.]]
Roedd dulliau o drosglwyddo neu wasgaru risg yn cael eu defnyddio gan fasnachwyr Tsieiniaidd a Babylonaidd yn y drydedd a'r ail fileniwm cyn Crist.<ref>See, e.g., Vaughan, E. J., 1997, ''Risk Management'', New York: Wiley.</ref>