Demetrius Poliorcetes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: sh:Demetrije I od Makedonije
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: vi:Demetrius I của Macedonia; cosmetic changes
Llinell 1:
Cadfridog [[Macedon]]aidd a ddaeth yn frenin Macedonia oedd [[Demetrius Poliorcetes]] (337-283 CC, [[Groeg (iaith)|Groeg]]: ''Δημήτριος Πολιορκητής''). Roedd yn fab i [[Antigonos I Monophthalmos]], un o'r ''[[Diadochi]]'', olynwyr [[Alecsander Fawr]].
 
Yn [[307 CC]], arweiniodd fyddin tuag [[Athen]], a gorfodi [[Demetrius Phalereus]], unben Athen, i ffoi i [[Alexandria]]. Ail-sefydlodd Demetrius hen gyfansoddiad Athen, a barodd i'r dinasyddion ei gyfarch ef a'i dad fel ''theoi soteres'', "gwaredwyr dwyfol". Yn [[306 CC]], gorchfygodd Menelaus, brawd [[Ptolemi I Soter]], brenin [[Yr Hen Aifft|yr Aifft]], ym [[Brwydr Salamis (306 CC)|Mrwydr Salamis]] ger arfordir [[Cyprus]], gan adael ei dad, Antigonos, yn feistr ar ran ddwyreinol y [[Môr Canoldir]] a'r [[Dwyrain Canol]] heblaw [[Babylonia]]. Cyhoeddodd Antigonos ei hun yn frenin [[Asia Leiaf]] a gogledd [[Syria]], ac enwodd Demetrius yn gyd-frenin.
 
Yn [[305 CC]], bu Demetrius yn gwarchae ar ddinas [[Rhodos]], oedd wedi gwrthod cynorthwyo Antigonos yn erbyn [[Ptolemi I Soter]]. Enillodd Demetrius yr enw "Poliorcetes" ("y gwarchaewr dinasoedd") am ei ymdrechion, oedd yn cynnwys adeiladu [[tŵr gwarchae]] 40 medr o daldra ac 20 medr o led, a elwid yn "Helepolis" ("Y cipiwr dinasoedd"), ond er gwarchae ar y ddinas am flwyddyn, ni allodd ei chipio.
Llinell 39:
[[sr:Деметрије Полиоркет]]
[[uk:Деметрій I Поліоркет]]
[[vi:Demetrius I của Macedonia]]
[[zh:德米特里一世 (马其顿)]]