Enseffalitis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B gwybodlen
Llinell 17:
 
==Achosion==
[[Feirws|Firysau]] cyffredin gan amlaf sy'n gyfrifol am enseffalitis firaol. Mae'r rhain yn cynnwys [[y frech goch]], [[brech yr ieir]], [[y ffliw]], [[rwbela]], firysau [[polio]], [[enterofeirws|enterofirysau]], [[herpes simplecs]], [[epstein bar]], a [[clwy'r pennau|chlwy’r pennau]]. Gall ddiffyg [[system imiwnedd|imiwnedd]] difrifol, [[HIV]] er enghraifft, achosi enseffalitis i ddatblygu o lawer o firysau a heintiau megis [[tocsoplasmosis]] a [[sytomegalofirws]] (CMV). Gall pobl sydd â HIV hefyd gael enseffalitis o HIV ei hun.<ref name="achosion">{{dyf gwe |url=http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/small/cy/hafan/gwyddoniaduriechyd/e/enseffalitis/achosion |gwaith=Gwyddoniadur Iechyd |cyhoeddwr=[[GIG Cymru|Galw Iechyd Cymru]] |teitl=Enseffalitis: Achosion |dyddiadcyrchiad=5 Awst |blwyddyncyrchiad=2009 }}</ref>
 
Caiff enseffalitis [[enseffalitis arbofirws]] ei achosi gan grŵp o firysau sy’n cael eu cario a'u trosglwyddo drwy bigiadau gan rai [[arthropod]]au, yn cynnwys [[mosgito]]s a [[trogen|throgod]].<ref name="achosion"/>
 
Gall heintiau [[bacteria|bacteriol]], [[ffwng|ffyngaidd]], neu [[parasit|barasitig]] hefyd achosi enseffalitis, ond yn anaml mae hyn yn digwydd. Mae achosion eraill yn cynnwys [[listeriosis]], [[brwselosis]], [[y pas]], [[y gynddaredd]], adwaith [[alergedd|alergaidd]] i frechiad, a [[gwenwyn plwm]].<ref name="achosion"/>