Pabo Post Prydain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
:[[Dunawd]] a Cherwydd a [[Sawyl Ben Uchel]] meibion Pabo Post Prydain mab [[Arthwys]] mab Mar mab [[Cenau mab Coel|Cenau]] mab [[Coel Hen|Coel]].
 
Mae testun achau arall, 'Bonedd y Saint', yn cofnodi enw ei ferch Arddun Ben Asgell, mam [[Tysilio]] Sant. Ond mae'r testunau achau hyn yn dyddio o'r Oesoedd Canol ac ni ellir dibynnu ar bob manylyn ynddynt. Mae disgynyddion eraill Coel Hen, sef y ''Coelwys'', yn cynnwys [[Urien Rheged]], [[Llywarch Hen]], [[Clydno Eidyn]], [[Elidir Lydanwyn]], [[Eliffer Gosgorddfawr]] a [[Gwenddolau]].
 
Yn y casgliad o draddodiadau Cymreig a Brythonig [[Trioedd Ynys Prydain]], cofnodir Dunawd fab Pabo Post Prydain yn un o 'Dri Phost Cad [[Ynys Prydain]]'. Mae'r enw Pabo yn Gymreigiad o'r gair [[Lladin]] ''papa''. Gelwir Urien Rheged yn 'Bost Prydain' hefyd. Trosiad yw 'post' am gynhalwr, h.y. brenin neu bennaeth, un sy'n cynnal trefn y gymdeithas.