Cerddoriaeth roc: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
JAnDbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: fiu-vro:Rokkmuusiga
Rhys (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 10:
=== Y gwraidd ===
[[Delwedd:ElvisPresley-OneNight.jpg|de|bawd|100px|[[Elvis Presley]], "Brenin roc a rôl".]]
Er oedd y math hwn o gerddoriaeth yn datblygu'n barod, [[Bill Haley]] sy'n cael y clod am ddyfeisiownaeth roc a rôl yn boblogaidd pan recordiodd ei gyfansoddiad o ''"Crazy Man, Crazy"'' yn [[1953]], ond roedd y math hwn o gerddoriaeth yn datblygu'n barod. Roedd elfennau roc yn recordiau'r [[Y felan|felan]] a [[jazz]] ers amser. Mae yna gytundeb cyffredin mai ''"Rocket 88"'' ([[1951]]) gan [[Ike Turner|Jackie Brenston and the Delta Cats]] oedd y gân roc a rôl gwirioneddol gyntaf. Fe recordiodd Bill Haley fersiwn o'r gân hon hefyd yn [[1951]].
 
Efallai mai'r record gynharaf i swnio'n debyg i gerddoriaeth roc oedd ''"Pinetop's Boogie Woogie"'' gan [[Clarence "Pinetop" Smith]] yn [[1928]]. Roedd llawer o recordiau yn y pedwar degau yn swnio fel roc. Mae enghreifftiau yn cynnwys ''"That's All Right"'' ([[1946]]) gan [[Big Boy Crudup]] a ''"Good Rocking Tonight"'' ([[1947]]) gan [[Roy Brown]]. Recordiodd [[Elvis Presley]] y rhain yn ddiweddarach. Yn [[1947]] fe recordiodd [[Wild Bill Moore]] gân o'r enw ''"We're Gonna Rock"'' sy'n cynnwys holl elfennau cerddoriaeth roc, ac ynddo mae'r geiriau ''"We're gonna rock. We're gonna roll"''. Engraifft adnabyddus arall yw ''"Rock the Joint"'' ([[1949]]) gan [[Jimmy Preston]] a recordiodd Bill Haley yn ddiweddarach.