Pasgen fab Urien: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Ceir sawl enghraifft o'r enw personol 'Pasgen' ([[Cymraeg Canol]] ''Pascen''; [[Hen Gymraeg]] ''Pascent'' < [[Lladin]] ''Pascentius''). Ceir enghraifft o'r enw Lladin ar garreg yn eglwys [[Tywyn]] sy'n dyddio o'r 5ed neu'r 6ed ganrif a cheir enw Pasgen fab Gwrtheyrn ar biler yng [[Glyn Egwestl|Nglyn Egwestl]] (9fed ganrif).
 
Ni chofnodir enw Pasgen yn y testun Cymraeg Canol [[Bonedd Gwŷr y Gogledd]], ond ceir llinach ei dad Urien Rheged yno. Dangosir yr achau hyn ei fod yn perthyn i [[Llywarch Hen]]. Yn y cylch o gerddi a adnabyddir fel [[Canu Llywarch Hen]], cyfeirir at bennaeth o'r enw Pasgen mewn cyd-destun sy'n awgrymu mai un o feibion Urien Rheged ydyw.: Gydagyda'i frodyr [[Owain ab Urien|Owain]] ac Elffin brwydrodd yn y Gogledd yn erbyn [[Dunod fab Pabo|Dunod]] fab [[Pabo Post Prydain]] a [[Gwallog]] fab Llëenog.
 
Yn y casgliad o draddodiadau Cymreig a Brythonig [[Trioedd Ynys Prydain]], cofnodir 'Pasgen fab Urien' fel un o 'Dri Thrahawg [[Ynys Prydain]]', gyda [[Sawyl Ben Uchel]] a ''[[Rhun ap Maelgwn Gwynedd|Rhun fab Einion]]''. Mae triawd arall yn cofnodi ei farch Arfwl Felyn fel un o 'Dri Thom Edystr Ynys Prydain' (''tom edystr''='pwn-farch' neu ''pack-horse''). Enwir Arfwl Felyn yng Nghanu Llywarch Hen mewn deialog sy'n cyfeirio at Owain, brawd Pasgen.