Cynfarch fab Meirchion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 7:
Cyfeirir ato weithiau fel Cynfarch Gul, ar ôl ei dad Meirchion Gul. Yn ôl ''De situ Brecheiniauc'', sy'n ymwneud â hanes [[teyrnas Brycheiniog]], priododd Cynfarch (''Kenuarch Gul'') Nifain (''Nyvein''), un o ferched niferus [[Brychan Brycheiniog]], ond credir nad oes sail i'r traddodiad diweddarach hwnnw.
 
Ceir sawl Cynfarch arall yn hanes a thraddodiad Cymru ac yn naturiol ddigon mae Cynfarch fab Meirchion yn cael ei gymysgu â nhw. Yr enghraifft bennaf o hyn yw'r chwedl enwog am [[March ap Meirchion|Farch ap Meirchion]], sy'n rhan o chwedl [[Trystan ac Esyllt]], y ceir chwedl werin amdano wedi'i lleoli yn [[Llŷn]] hefyd. Mae'n bosibl fod Meirchion, tad March, yn frenin cynnar ym [[Morgannwg]]. Cyfeirir at 'Gynfarch' yn ''[[Englynion y Clyweit]]'', ond gan fod Cynfarch yn enw ar sawl sant yng Nghymru does dim modd ei uniaethu â'r Cynfarch o'r Hen Ogledd. Cysylltir sant o'r enw Cynfarch â [[Llanfair Dyffryn Clwyd]] hefyd, ond unwaith eto does dim modd profi cysylltiad rhyngddo a brenin Rheged. Yn ôl traddodiad, sefydlodd Cynfarch arall, un o ddisgyblion [[Dyfrig]] Sant, gell yn Llangyfarch ([[Cas-gwent]]).
 
== Ffynhonnell ==