Bochdew Syriaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Blwch tacson | enw = Bochdew Syriaidd | statws = VU | delwedd = Goldhamster terrarium.jpg | maint_delwedd = 200px | regnum = Animalia | phylum =...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 19:
}}
Math o [[bochdew|fochdew]] yw'r '''bochdew Syriaidd''' neu'r '''bochdew aur'''.
 
Darganfuwyd y bochdew Syriaidd cyntaf yn yr oes fodern ym 1839 yn [[Syria]] gan y sŵolegydd [[George Robert Waterhouse]] o Brydain. Arddangosir ffwr y sbesimen oedrannus, benywol a ddarganfu Waterhouse yn yr [[Amgueddfa Brydeinig]]. Ni rhoddwyd unrhyw sylw i astudiaeth y rhywogaeth am ganrif arall.<ref>{{eicon en}} [http://www.helium.com/items/1076681-what-kind-of-hamster-is-right-for-you-what-is-unique-about-the-syrian-hamster Hamster breeds: The Syrian hamster]</ref>
 
Yn hwyr y 1920au darganfuodd yr Athro [[Israel Aharoni]], ysgolhaig Iddewig o [[Palesteina|Balesteina]] oedd yn arbenigo mewn hen destunau [[Hebraeg]] ac [[Aramaeg]], ddarn mewn un o'r testunau hynafol yr oedd yn astudio a dywed unwaith "yn ardal Chaleb bu fath arbennig o lygoden Syriaidd, a ddyfodwyd i [[Assyria]] a gwlad y [[Hittite]]", ac oedd yn disgrifio natur ddof y creaduriaid a'r ffordd bu plant yn hen Assyria ac [[Anatolia]] yn eu cadw mewn cewyll. Er roedd y testun yn ei wneud yn glir nad llygod arferol oedd y creaduriaid, nid oedd Aharoni yn ymwybodol o unrhyw anifail cyfoes oedd yn bodloni'r disgrifiad. Ym 1930 fe aeth Aharoni i ddinas [[Aleppo]], safle Chaleb, yn [[Syria]] i geisio chwilio am yr anifail. Ni ddaeth ar draws unrhywun oedd yn ymwybodol o anifail o'r fath, ond yn y cefn gwlad fe ddarganfuodd tri ar ddeg o fochdewion coch-frown eu lliw, oedd yn llai o faint nag unrhyw rywogaeth hysbys, mewn tyrchfa ddaear. Am amser credai mae'r rhain oedd yr unig fochdewion Syriaidd oedd ar ôl yn y byd, gan nad oedd ymchwil maes pellach wedi darganfod unrhyw aelodau eraill o'r rhywogaeth yn y gwyllt.<ref name="AO">May & Marten, tud. 81</ref> Llwyddodd ddwy alldaith ym 1997 a 1999 i ddarganfod tri bochdew Syriaidd ar ddeg, chwe benyw a saith gwryw, ger Aleppo, nid yr un ohonynt mewn tyrchfa oedd ag mwy nag un oedolyn.<ref name="Letterman">Letterman ET AL. 2001. Notes on the current distribution and the ecology of wild golden hamsters (Meretricious aural). Journal of Zoology, 254: 359-365 (Cambridge University Press). [http://journals.cambridge.org/action/displayAbstract?fromPage=online&aid=78463 Online abstract]</ref>