Tsieineeg Mandarin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
clean-up
Lao Ou (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Tafodiaith Tsieinëeg ydy '''Mandarin''' (中文 ''ZhongWen''; 汉语 ''HanYu'' 普通话 "yr iaith gyffredin"). Y dafodiaeth "ffurfiol" ydyw, gyda'r gair "mandarin" yn cyfeirio at y swyddog a gaed yn Tsieina draddodiadol (er nad yw'r gair "mandarin" yn air Tsieineaidd.
 
Seilir Mandarin i ryw raddau ar dafodiaeth Beijing, gan hepgor i ryw raddau acen gref brodorion y ddinas honno.
 
Dylid nodi fod gwahaniaethau mawr rhwng yr iaith lafar a'r iaith a ddefnyddir mewn dogfennau swyddogol lle defnyddir o bryd i'w gilydd eiriau a chystrawen yr iaith glasurol. Oherwydd i nifer o sillau ddatblygu'n yn debyg i'w gilydd crewyd yn yr iaith lafar yr arfer o ychwanegu gair arall at un o'r geiriau hyn er mwyn arbed camddealltwriaeth. Gan fod y lluniau Hanzi (汉字) yn glir eu hystyr nid oes rhaid gwneud hyn wrth ysgrifennu. Dyma un rheswm am yr agendor rhwng yr iaith lafar a'r iaith ysgrifennedig.
[[Categori:Tsieinëeg|Mandarin]]