Brwydr Thermopylae: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Alexbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: ko:테르모퓔라이 전투
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: fr:Bataille des Thermopyles; cosmetic changes
Llinell 1:
:''Am frwydrau eraill yn Therompylae, gweler [[Brwydr Thermopylae (gwahaniaethu)]]''
 
Roedd '''Brwydr Thermopylae''' (''Y Pyrth poeth'', o’r ffynhonnau poethion gerllaw) yn frwydr rhwng y [[Groeg yr Henfyd|Groegiaid]], dan arweiniad [[Sparta]], ac [[Ymerodraeth Persia]] yn [[480 CC]].
 
[[ImageDelwedd:Battle of Thermopylae and movements to Salamis, 480 BC.gif|thumb|350px|Map o Frwydr Thermopylae a'r symudiadau yn arwain at Frwydr Salamis]]
 
Methodd un ymgais gan y Persiaid i ychwanegu [[Gwlad Groeg]] at eu hymerodraeth, dan [[Darius I, brenin Persia|Darius I]] yn [[490 CC]], pan orchfygwyd eu byddin gan yr [[Athen|Atheniaid]]iaid ym [[Brwydr Marathon| Mrwydr Marathon]]. Yn [[480 CC]] ymosododd mab Darius, [[Xerxes I, brenin Persia|Xerxes I]], oedd wedi dod yn frenin Persia wedi marwolaeth ei dad, ar y Groegiaid gyda byddin lawer mwy na’r un oedd gan y Persiaid ddeng mlynedd ynghynt. Daw’r wybodaeth am hanes y rhyfel yn bennaf o waith yr hanesydd Groegaidd [[Herodotus]].
 
Croesodd byddin Xerxes yr [[Hellespont]] ar bont wedi ei gwneud o gychod, a meddiannu gogledd Groeg, lle cafodd gefnogaeth nifer o’r [[dinas-wladwriaeth]]au. Mae dadlau ymhlith haneswyr ynghylch maint byddin y Persiaid; yn ôl Herodotus roedd tua dwy filiwn a hanner ohonynt, ond nid yw haneswyr diweddar yn derbyn ei ffigyrau. Cred rhai ei bod tua 250,000, tra cred eraill fod ei nifer yn llai, yn bennaf oherwydd eu bod o’r farn na fyddai digon o ddŵr ar gael i fyddin mor fawr.
 
Penderfynodd y Groegiaid geisio gwrthsefyll y Persiaid yn [[Thermopylae]], lle roedd y ffordd tua’r de yn mynd trwy fwlch cul, dim ond tua 12 medr yn y man culaf, rhwng y mynyddoedd a’r môr. Roedd byddin y Groegiaid yn cynnwys 300 [[hoplit]] o Sparta (a chyda hwy tua 600 o [[Helot|helotiaid]], gan fod pob Spartiad yn mynd â dau was gydag ef, 500 o wŷr [[Tegea]], 500 o [[Mantinea]], 120 o [[Orcomenos]] a 1,000 arall o’r gweddill o [[Arcadia]], 400 o ddinas [[Corinth]], 200 o [[Fliunte]], 80 o [[Mycenae]], 700 o [[Thespia|Thespiaid]]id a 400 o [[Thebai]], gyda 1,000 o’r [[Phocis|Ffociaid]] a [[Locria|Locriaid]]id. Er fod y Spartiaid yn un o’r grwpiau lleiaf yn y fyddin, hwy oedd yn arwain, dan ei brenin [[Leonidas]]; roeddynt yn filwyr proffesiynol tra’r oedd y gweddill yn ddinasyddion wedi eu galw i’r gad.
 
Pan gyrhaeddodd byddin Persia Thermopylae, dywedir i Xerxes anfon cennad at y Groegiaid yn gorchymyn iddynt ildio eu harfau rhag cael eu dinistrio. Ateb Leonidas oedd
:“Μολων λαβε'' – “Tyrd i’w casglu dy hun”.
 
[[ImageDelwedd:Leonidas.jpg|thumb|chwith|300px|Cerflun o Leonidas.]]
 
Ymosododd y Persiaid, ond gan fod y bwlch mor gul ni allent ddefnyddio mwy na rhan fechan o’u byddin ar unwaith. Roedd arfau y Groegiaid yn well, a dioddefodd y Persiaid golledion mawr yn yr ymosodiadau cyntaf. Danfonodd Xerxes ddeng mil o’i filwyr gorau, yr [[Anfarwolion]], i ymosod, ond methu wnaethant hwythau, a lladdwyd cannoedd ohonynt.
Llinell 57:
[[fa:جنگ ترموپیل]]
[[fi:Thermopylain taistelu]]
[[fr:Bataille des Thermopyles (-480)]]
[[ga:Cath Thermopylae]]
[[gl:Batalla das Termópilas]]