Harry Belafonte: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B dolennau
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Poitier Belafonte Heston Civil Rights March 1963.jpg|250px|bawd|Harry Belafonte (canol) rhwng [[Sidney Poitier]] a [[Charlton Heston]], Gorymdaith Hawliau Sifil i Washington, 1963.]]
Cerddor, actor ac ymgyrchydd [[Unol Daleithiau|Americanaidd]] [[Jamaica|Jamacaidd]] yw '''Harold George Belafonte, Jr.''' (ganed [[1 Mawrth]], [[1927]], yn [[Dinas Efrog Newydd|Ninas Efrog Newydd]]), sy'n adnabyddus fel '''Harry Belafonte'''. Mae'n un o'r cantorion mwyaf poblogaidd erioed, a lysenwyd yn "Frenin [[Calypso]]," am iddo boblogeiddio'r arddull cerddorol [[Caribî|Caribïaidd]] hwnnw yn rhyngwladol yn y 1950au. Mae caneuon mwyaf adnabyddus Harry Belafonte yn cynnwys y "Banana Boat Song", gyda'i chytgan enwog "Day-O," ac "[[Island in the Sun]]". Trwy gydol ei yrfa, mae Belafonte wedi bod yn ymgyrchydd amlwg dros [[hawliau sifil]] ac achosion dyngarol. Cymerodd ran yn ymgyrchoedd y Mudiad Hawliau Sifil yn yr [[Unol Daleithiau]] (UDA) i ennill hawliau sifil llawn i bobl duon y wlad ac mae wedi beirniadau polisi tramor UDA ers blynyddoedd. Yn fwy diweddar, bu'n feirniad amlwg o bolisïau [[George W. Bush|gweinyddiaeth Bush]], yn enwedig [[Rhyfel Irac]]. Un o'r dylanwadau mwyaf arno, yn gerddorol ac yn wleidyddol, yw'r canwr [[Paul Robeson]].
 
==Disgograffeg==