Clément Marot: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
 
== Ei Oes ==
Tua [[1506]] cafodd ei dad swydd yng ngwasanaeth [[Ann o Lydaw]] ym [[Paris|Mharis]] ac aeth Clément yno efo fo. Cafodd swydd fel ysgrifenydd llys a daeth yn aelod o'r [[Basoche]] a'r [[Enfants sans souci]], dwy gymdeithas a warcheidiai fuddianau gwŷr cyfraith ac a hyrwyddai ddigwyddiadau llenyddol a diwyllianol. Tua [[1518]] cafodd ei apwyntio'n ''valet de chambre'' i Marguerite d'Alençon ([[Marguerite de Navarre]]), a fyddai'n ddiwedarach yn Frenhines [[Navarre]]. Pan fu farw ei dad yn 1526 cymroddcymerodd Clément ei le yn llys Brenin [[Ffrainc]] ond parhaodd i fwynhau nawdd Marguerite de Navarre. Roedd gweithgareddau Marot yn ennyn gwg y diwinyddion ceidwadol a chafodd ei garcharu yn y ''Châtelet'' am gyfnod yn [[1525]] am dorri ympryd y [[Grawys]]. Yn sgîl yr adwaith yn [[1534]] yn erbyn y [[Martin Luther|Lutheriaid]] a'u cydymdeimlwyr mudodd i'r [[Yr Eidal|Eidal]] a threuliodd gyfnod pwysig yn [[Ferrara]] a [[Fenis]]. Dychwelodd i Ffrainc a llwyddodd i barhau a'i waith o gyfieithu'r [[Salmau]], oedd wedi codi gwrychyn y ceidwadwyr eglwysig. Ond ynYn [[1541]] bu rhaid iddo ffoi eto, i [[Genefa]] y tro yma, lle cafodd gefnogaeth [[Jean Calvin]]. Ond roedd ymddygiad mavericanghonfensiynol y bardd yn digio'r [[Protestant|Protestaniaid]] hefyd - dywedir iddo chwarae bacgamon ar y Sabath, er enghraifft - a ffôdd unwaith eto, i [[Safoi]] (Savoie) ac yna i'r Eidal lle bu farw yn [[Torino|Tŵrin]] yn 1544.
 
== Ei Waith ==
Un o'i gerddi cynharaf i weld golau dydd oyw'r [[ballade]] (balad) a gyfansoddodd i'r ''Enfants sans souci''. Yn [[1532]] cyhoeddodd casgliadgasgliad o'i gerddi cynnar, yr ''Adolescence Clémentine''. Dan nawdd Marguerite de Navarre dechreuodd ar ei waith o gyfieithu'r Salmau i'r Ffrangeg; mae ''Miroir de l'âme pécheresse'' gan Marguerite yn cynnwys un o gyfeithiadaugyfieithiadau cynnar Marot (Salm vi). Cyhoeddodd ei ''Œuvres'' yn [[1539]], ar ôl dychwelyd i Ffrainc o alltudiaeth yn yr Eidal, a chyflwynodd i'r brenin gyfieithiad o 30 Salm; cyhoeddwyd argraffiad llawnach o'i gyfieithiadau o'r Salmau (50 Salmohonynt) yn Genefa yn [[1543]].
 
Roedd Marot yn ysgolhaig a chyfieithydd yn ogystal, a chyhoeddodd olygiad o'r gerdd ganoloesol [[Le Roman de la Rose]] yn [[1527]] a hefyd golygiad o waith [[François Villon]] ([[1431]]-?) yn [[1533]]. Roedd yn Lladinwr hefyd a chyhoeddodd gyfieithiad o ran o [[Metamorphoses]] [[Ofydd]] (Ovid) yn [[1530]]. Dyfnhaodd ei wybodaeth o'r [[Lladin]] yn ystod ei alltudiaeth yn yr Eidal; cyfieithodd rai o [[Epigram|epigramau]] [[Marsial]] (Martial) a throsiad o 4edd [[Eclog]] [[Fferyll]] (Virgil). Yn yr Eidal hefyd daeth yn gyfarwydd â'r [[soned]] ac roedd un o'r Ffrancwyr cyntaf i gyfansoddi sonedau.
 
Nodweddir ei gerddi gan gymysgedd o ysgafnder anghyfrifol a dwysder ysbrydol sydd efallai'n nodweddiadol o'r dyn a'i oes. Mae ei gerddi niferus yn amrywiol iawn eu cynnwys a'u [[mydr]], ond mae'r rhan fwyaf yn gerddi cymharol byr, yn [[Epistol|epistolau]], eclogau, [[Rondeau|rondeaux]], [[Chanson|chansons]], [[Marwnad|marwnadau]] ac [[Epigram|epigramau]]; ffurfiau traddodiadol sy'n cael bywyd newydd dan law Marot. Mae beirniadaeth o ddiwinyddion y [[Sorbonne]], y [[Y Babaeth|Babaeth]] ac [[Urdd y Ffransisiaid]] yn elfen gyson yn ei waith ond mae hefyd yn medru canu'n bêr ar bynciau fel natur a chariad. Gellid ystyried gwaith Clément Marot fel pont rhwng yr [[Yr Oesoedd Canol|Oesoedd Canol]] â'i hoffter o gerddi [[Alegori|alegorïaidd]] [[didactaidd]] a'r ysbryd newydd a flodeuodd yn yr 16eg ganrif.
 
== Llyfryddiaeth ==
Llinell 16:
*Geoffrey Brereton (gol.), ''The Penguin Book of French Verse[:] Sixteenth to Eighteenth Centuries'' (Llundain, 1958).
*G. Lanson a P. Tuffrau, ''Manuel Illustré de la Histoire de la Littérature Française'' (Paris, 1929).
*G. Pellisier (gol.), ''Morceaux choisis des Poétes du XVIe siècles'' (Paris, 1918).
*C.-F. Ramuz (gol.), ''Anthologie de la poésie française, 16e et 17e siècles'' (Paris, 1943).