Peirianneg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: mwl:Angenharie
Lao Ou (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Cymhwysiad egwyddorion [[gwyddoniaeth|gwyddonol]] a [[mathemateg]]ol i ddatblygiad datrysiadau i broblemau technegol yw '''peirianneg''', ac felly creu [[cynnyrch]], [[cyfleustra|cyfleusterau]], ac [[adeiladwaith]] sy'n ddefnyddiol i bobl.
 
Crewyd cryn dipyn o amwysedd yn yr agwedd Brydeinig at y pwnc gan yr arferir y gair "Engineering" am y maes, gair sydd yn cyfleu syniad o rywun sydd yn gweithio gyda peiriannau budron. Yn Ffrainc defnyddir y gair "Ingenieur" sydd yn cyfleu syniad o ddyfeisgarwch - syniad sydd yn gweddu'n well i'r gwaith ar level broffesiynnol. Gan y cyreirir yn aml at y crefftwyr sydd yn trwsio peiriannau fel injenni golchi fel "engineers" nid yw hyn yn codi statws y peiriannydd professiynnol.
 
Er fod y maes yn un hen iawn - peiriannwyr a gododd pyramidau'r Aifft - yn y maes milwrol yn bennaf bu prosiectau mawr. Dyma sydd wrth wraidd y term "Peiriannydd Suful (Civil Engineer)", lle y mae'r gair "suful" yn golygu mai gweithio y tu allan i'r maes milwrol y mae'r peiriannydd. Corff proffesiynnol peiranyddion suful yw'r ICE.
 
Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol daeth y Peiriannydd Mecanyddol i'r blaen a dyma'r adeg y sefydlwyd yr IMechE, corff proffesiynnol peirianyddion mecanyddol.
 
Yn ddiweddarach sefydlwyd cyrff eraill.
 
Y mae gwaith y peiriannydd proffesiynnol (gan amlaf yn beiriannydd siartredig) yn gymysgedd o wyddoniaeth, mathemateg a busnes. Rhaid iddo gadw llygad ar gost prosiect, boed yntau (neu hithau) yn gweithio yn y sector breifat ynteu'r sector gyhoeddus.
{{stwbyn}}