Castell Candleston: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

maenordy wedi'i amddiffyn rhestredig Gradd II* ym Merthyr Mawr
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'thumb|300px|Castell Candleston Lleolir '''Castell Candleston''' ger pentref Merthyr Mawr ym [[Pen-y-bont ar Ogwr|mwrd...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 22:53, 26 Awst 2009

Lleolir Castell Candleston ger pentref Merthyr Mawr ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a glannau Môr Hafren.

Castell Candleston

Er gwaethaf ei enw, maenordy castellog ydyw yn hytrach na chastell fel y cyfryw, a adeiladwyd ar ddiwedd y 14eg ganrif. Cafodd ei adeiladwaith ei newid sawl gwaith rhwng y cyfnod hwnnw a dechrau'r 19eg ganrif pan roddwyd y gorau i'w ddefnyddio fel preswylfa. Mae llawer o dir yr hen faenor wedi cael ei lyncu gan dywod y tywynni mawr a geir yma.

Tybir fod yr enw "Candleston" yn llurguniad o'r enw "Cantilupeston", a bod y castell yn eiddo i'r teulu de Cantilupe Cambro-Normanaidd (gweler Walter de Cantilupe).

Ceir nifer o gestyll Normanaidd eraill yn yr ardal, yn cynnwys Castell Ogwr.

Dolen allanol

     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato