Svalbard: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'bawd|240px|Lleoliad Svalbard Ynysoedd yn yr Arctig yn perthyn i Norwy yw ynysoedd '''Svalbard'''. Cyfeirir atynt yn ...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 06:04, 27 Awst 2009

Ynysoedd yn yr Arctig yn perthyn i Norwy yw ynysoedd Svalbard. Cyfeirir atynt yn aml, yn anghywur, fel Spitsbergen ar ôl yr ynys fwyaf. Yr ynysoedd hyn yw'r rhan fwyaf gogleddol o Norwy. Dim ond ar dair o'r ynsoedd, Spitsbergen, Bjørnøya a Hopen, y mae poblogaeth barhaol. Roedd y boblogaeth yn 2004 yn 2,756. Longyearbyen yw'r pentref mwyaf a "phrifddinas" yr ynysoedd.

Lleoliad Svalbard

Yr ynysoedd mwyaf yw Spitsbergen (39.000 km²), Nordaustlandet (14.600 km²) ac Edgeøya (5.000 km²). Ymhlith yr ynysoedd eraill mae Barentsøya, Lågøya, Hopen, Danskøya, Kvitøya a Wilhelmøya. Gorchuddir 60% o Svalbard gan rew. Ceir nifer fawr o adar yma, ac mae Svalbard yn arbennig o bwysig oherwydd y niferoedd o'r Wydd Wyran Branta leucopsis sy'n nythu yma.

Ynysoedd Svalbard