Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Injan stêm"

Ychwanegwyd 1,713 beit ,  13 o flynyddoedd yn ôl
dim crynodeb golygu
No edit summary
No edit summary
Wrth baratoi injian stem at ei gwaith y mae'n rhaid rhoi olew yng nghymalau'r ger falf, olew silindr yn y pwmp neu irwr sydd yn gyrry olew i'r silindrau. Wrth gwrs rhaid hefyd sicrhau fod y mwgflwch a'r tanflwch yn lan a cynnau tan yn y tanflwch.
 
Wedi codi stem a phrofi pethau fel y chwistrellyddion (injectors) sydd yn gyrru dwr i'w bwyler rhaid paratoi ar gyfer tynnu tren. Wedi bachu yr injian i'r tren rhaid (Ios oes sustem frecio trwy'r tren) "creu'r brec" naill ai trwy greu gofod rhannol yn y beipen tren (os defnyddir brec gofod) neu trwy cywasgu aer ym mheipen aer y tren (os defnyddir brec aer cywasgedig DDILYNWestinghouse).
 
Gwaith y taniwr ydyw trin y bwyler a gwethio o dan oruchwyliaeth y gyrrwr. Y nod yw rhofio glo mewn dull fel nad oes tyllau yn gadael i aer oer gymeryd ffordd hawdd trwy y tan a mynd ymlaen i oeri'r platiau yn lle helpu y glo i losgi. Dylid felly osgoi tyllau yng ngwely y tan ac hefyd osgoi rhofio gymaint o lo mewn un man fod y tan yn cael ei dagu.
 
Rhaid i'r taniwr hefyd sicrhau fod dwr yn cael ei chwistrellu i'r bwyler i gymeryd lle yr ager a ddefnyddid y yrru'r injian. Ar bob injian stem ceir o un neu ddau wydr dwr (erstalwm defnyddid feisiau profi ond nid yw rhain yn cael ei defnyddio'n aml erbyn hyn). Rhaid cadw lefel y dwr o fewen rhychwant y gwydr, canys os yw corun y tanflwch yn colli haen o ddwr y peryg yw y bydd y platiau yn cael eu gor-gynhesu. Defnyddir plygiau plwm ar y rhan fwyaf o injenni (er nid yw hyn yn gyffredin yn yr UDA). Os collir haen o ddwr uwchben corun y tanflwch yna fe dodda'r plwg a gadael stem i fewn i'r tanflwch i rybuddio fod rywbeth o'i le. Rhaid wedyn ddiffodd neu daflu'r tan. Oni wneir hyn byd y plat y corun yn meddalhau a bydd arwbwysedd y stem yn peri iddo ddod oddi ar y staes gyda canlyniad ffrwydrol.
 
Os gadewir i lefel y dwr fynd yn rhy uchel y mae peryg i dwr ynghyd a stem fynd drwy'r brif beipen stem i'r falfiau a silindrau. Gan nad ydyw dwr yn goddef cael ei wasgu i'r un raddfa a nwy fel stem y peryg felly ydyw naill ai chwythu caead oddi ar silindr neu plygu rhoden gyswllt. (RHAGOR I DDILYN)
56

golygiad