Ceiniog Mynydd Parys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Arian cyfred cyfreithlon oedd ''Ceiniogau Mynydd Parys''. Defnyddid yn ystod y chwildro diwydiannol yn Amlwch, Ynys Mon yn yr 18eg. ==Hanes==...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 10:55, 7 Medi 2018
Arian cyfred cyfreithlon oedd Ceiniogau Mynydd Parys. Defnyddid yn ystod y chwildro diwydiannol yn Amlwch, Ynys Mon yn yr 18eg.
Hanes
Gwerth ceiniog a dimai o 1789 heddiw fyddai tua 50 ceiniog a byddai swllt (12 ceiniog) o’r un flwyddyn werth tua £3.00. Aiff neb yn bell ar yr un o’r ddwy swm ond yn 1789 yr oedd bod a swllt yn eich poced yn eich gwneud yn gyfoethog ond tua diwedd y ddeunawfed ganrif (oes aur gwaith copr Mynydd Parys) yr oedd prinder o ddarnau arian cyfreithlon yn y wlad. Dedfrydwyd y gosb eithaf am ffugio darnau arian ond caniatawyd cynhyrchu tocyn (token). Manteisiodd Thomas Williams ar hyn a throi at gynhyrchu ceiniogau a dimeiau ar gyfer ei weithwyr i’w defnyddio yn lle darnau arian o’r Bathdy Brenhinol.
Ymddangosodd y ‘Ceiniogau Mynydd Parys’ cyntaf yn 1787 a’r rheini wedi eu gwneud o gopr o’r mynydd ei hun. [1] Cysidrir darnau pres Mynydd Parys ymysg goreuon y 18fed ganrif. Hwy oedd y rhai cyntaf i’w bathu; yr oeddynt o safon uchel a’r ceiniogau yn pwyso owns ac yn cynnwys eu gwerth o gopr. Caniatawyd eu newid yn unrhyw un o siopau neu swyddfeydd y cwmni ac yn ôl y geiriad arnynt yn unrhyw le ym Môn, Lerpwl a Llundain. [2]
Sefydlodd Williams ddau fathdy ar gyfer cynhyrchu’r darnau - un yn Nhreffynnon, Fflint a’r llall ym Mirmingham. Gwnaed ceiniogau 1787 yn Nhreffynnon a rhai 1788 ym Mirmingham. Cynlluniwyd y darnau gan John Gregory Hancock, yr Hynaf. Er i’w waith fod yn fanwl ac o safon uchel, bychanwyd Hancock gan y wasg. Yn 1792, ymddangosodd pennill dychanol amdano yn y ‘Gentleman’s Magazine’:
The artist paused awhile in great suspence
To make a penny of some consequence,
And having Stukeley or old Dugdale read,
Stamp’d the pittance with a Druid’s head;
To make his own resemblance next he tried,
And struck a cypher on the counterside. [3]