Ceiniog Mynydd Parys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 6:
Gwerth ceiniog a dimai o [[1789]] heddiw fyddai tua 50 ceiniog a byddai [[swllt]] (12 ceiniog) o’r un flwyddyn werth tua £3.00. Aiff neb yn bell ar yr un o’r ddwy swm ond yn 1789 yr oedd bod a swllt yn eich poced yn eich gwneud yn gyfoethog ond tua diwedd y ddeunawfed ganrif (oes aur gwaith copr Mynydd Parys) yr oedd prinder o ddarnau arian cyfreithlon yn y wlad. Dedfrydwyd y gosb eithaf am ffugio darnau arian ond caniatawyd cynhyrchu tocyn (token). Manteisiodd [[Thomas Williams, Llanidan|Thomas Williams]] ar hyn a throi at gynhyrchu ceiniogau a dimeiau ar gyfer ei weithwyr i’w defnyddio yn lle darnau arian o’r Bathdy Brenhinol.
 
Ymddangosodd y ‘Ceiniogau Mynydd Parys’ cyntaf yn [[1787]] a’r rheini wedi eu gwneud o [[copr|gopr]] o’r mynydd ei hun. <ref>Mynydd Parys. JR Williams. Gwasg Carreg Gwalch.2011</ref> Cysidrir darnau pres [[Mynydd Parys]] ymysg goreuon y 18fed ganrif. Hwy oedd y rhai cyntaf i’w bathu; yr oeddynt o safon uchel a’r ceiniogau yn pwyso owns ac yn cynnwys eu gwerth o gopr. Caniatawyd eu newid yn unrhyw un o siopau neu swyddfeydd y cwmni ac yn ôl y geiriad arnynt yn unrhyw le ym Môn, [[Lerpwl]] a [[Llundain]]. <ref>The Copper King. JR Harris. Landmark Publishing. 2003</ref>
 
Sefydlodd Williams ddau fathdy ar gyfer cynhyrchu’r darnau - un yn [[Treffynnon|Nhreffynnon]], [[Fflint]] a’r llall ym [[Birmingham|Mirmingham]]. Gwnaed ceiniogau 1787 yn Nhreffynnon a rhai [[1788]] ym Mirmingham. Cynlluniwyd y darnau gan John Gregory Hancock, yr Hynaf. Er i’w waith fod yn fanwl ac o safon uchel, bychanwyd Hancock gan y wasg. Yn 1792, ymddangosodd pennill dychanol amdano yn y ‘Gentleman’s Magazine’:
Llinell 21:
 
''And struck a cypher on the counterside''. <ref>Gentleman's Magazine 1792</ref>
 
Yn 1788, cynhyrchwyd y dimeiau cyntaf. Yn anffodus, mater cymharol hawdd oedd eu ffugio. Dim ond ceiniogau wedi eu cynhyrchu yn 1787 - 1791 a dimeiau o 1788 -1791 sydd yn ddilys.
Ar flaen y darnau mae darlun o dderwydd mewn plethdorch o ddail [[derw]] ac ar y cefn mae prif lythrennau enw’r cwmni ac addewid y gellid eu defnyddio i dalu am nwyddau. O’u hamgylch, enwir Môn, Lerpwl a Llundain fel llefydd lle gellid cyfnewid y tocyn am ddarnau arian go iawn. <ref>Copper Mountain. J Rowlands. CHaNM 1981.</ref>
 
==Llyfryddiaeth==
* Anglesey - The Concise History. D.A Pretty. Gwasg Prifysgol Cymru 2005
* Y Deyrnas Gopr. P.Steele a R. Williams. Llyfrau Magma 2010.
 
==Cyfeiriadau==