Ceiniog Mynydd Parys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 22:
''And struck a cypher on the counterside''. <ref>Gentleman's Magazine 1792</ref>
 
==Ceiniogau ffug==
Yn 1788, cynhyrchwyd y dimeiau cyntaf. Yn anffodus, mater cymharol hawdd oedd eu ffugio. Dim ond ceiniogau wedi eu cynhyrchu yn 1787 - 1791 a dimeiau o 1788 -1791 sydd yn ddilys.
Ar flaen y darnau mae darlun o dderwydd mewn plethdorch o ddail [[derw]] ac ar y cefn mae prif lythrennau enw’r cwmni ac addewid y gellid eu defnyddio i dalu am nwyddau. O’u hamgylch, enwir Môn, Lerpwl a Llundain fel llefydd lle gellid cyfnewid y tocyn am ddarnau arian go iawn. <ref>Copper Mountain. J Rowlands. CHaNM 1981.</ref>
 
Cynhyrchwyd dros dri chan tunnell o’r tocynnau - 250 tunnell neu 8,960,000 o geiniogau a 50 tunnell neu 3,584,000 o ddimeiau. Buont mewn defnydd cyfreithlon hyd at [[1818]].
‘Lle mae, yr aiff.’ Meddai yr hen ddywediad Cymreig ac yn sicr yr oedd hynny yn wir yn hanes Thomas Williams. Yr oedd yn ddigon cefnog nid yn unig i allu cynhyrchu darnau arian ar gyfer ei gwmni ei hun ond, hefyd, sefydlodd fanc – y “Chester and North Wales Bank” yn [[1792]] yng [[Caer|Nghaer]], [[Caernarfon]] a [[Bangor]]. Sefydlwyd partneriaeth rhwng Thomas Williams a’r Parchedig Edward Hughes. Ymunodd H.R. Hughes – mab y Parchedig â’r banc hefyd. Yn 1797, bu cryn redeg ar y banc ond er mwyn osgoi trafferthion ariannol, caewyd ei drws ac ni ail-agorodd hyd nes fod y sefyllfa wedi gwella. Wedi marw’r sefydlwyr, bu gwahanol aelodau o’r ddau deulu ac ambell bartner newydd yn gyfrifol am reolaeth y busnes nes iddo gael ei gymryd drosodd gan gwmni’r Ceffyl Du - Lloyds.
 
 
==Llyfryddiaeth==