Cainc yr Aradwr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 13:06, 7 Medi 2018
Cân werin draddodiadol yw Cainc yr Aradwr. Mae'r band gwerin Plethyn wedi recordio freswin o'r gan.
Geiriau
Fe gwyd yr haul er machlud heno,
Fe gwyd y lloer yn ddisglair eto,
Cwyd blodau haf o’r ddaear dirion,
Ond byth!, O! byth ni chwyd fy nghalon.
Ho! da ‘machgen i,
Ho! dere dere, O! dere dere Ho! Hai ho!
Fe gwn yr haul, fe gwn y lleuad,
Fe gwn y môr yn donnau irad,
Fe gwn y gwynt yn uchel ddigon:
Ni chwn yr hiraeth byth o ‘nghalon.
Fe gwn yr haul pan ddêl boreddydd,
Fe gwn y tarth oddi ar y dolydd,
Fe gwn y gwlith oddi ar y meillion:
Gwae fi, pa bryd y cwn fy nghalon?