|
|
Llawysgrif Ladin o'r 9ed ganrif yw "''Llawysgrif Juvencus"'' ac ynddi y ceir dwy gadwyn o '''englynion y Juvencus''', wedi'u hysgrifennu mewn [[Hen Gymraeg]]. Cedwir y [[llawysgrif]] yn Llyfrgell [[Prifysgol Caergrawnt]]. Rhan o gerdd storïol yw'r gyfres gyntaf o [[englyn]]ion a gwaith crefyddol yw'r ail. Ni wyddus pwy a weithiodd yr englynion hyn na pha bryd, ond ceir un barn mai dyma'r enghraifft gynharaf o farddoniaeth Gymraeg hynafysgrifenedig sydd ar glawr (diweddarach yw'r llawysgrifau sy'n cynnwys yr [[Hengerdd]], ond credir fod y canu hwnnw yn perthyn i'r 6ed ganrif).
{{eginyn llenyddiaeth}}
[[Categori:Englynion| Juvencus]]
[[Categori:Barddoniaeth Gymraeg]]
|