86,316
golygiad
B |
(cyfeiriadau... Y Gwyddoniadur) |
||
Llawysgrif Ladin o'r 9ed ganrif yw ''Llawysgrif Juvencus'' ac ynddi y ceir dwy gadwyn o '''englynion y Juvencus''', wedi'u hysgrifennu mewn [[Hen Gymraeg]]. Cedwir y [[llawysgrif]] yn Llyfrgell [[Prifysgol Caergrawnt]]. Rhan o gerdd storïol yw'r gyfres gyntaf o [[englyn]]ion a gwaith crefyddol yw'r ail. Ni wyddus pwy a weithiodd yr englynion hyn na pha bryd, ond ceir un barn mai dyma'r enghraifft gynharaf o farddoniaeth Gymraeg ysgrifenedig sydd ar glawr<ref>Gwyddoniadur Cymru, Yr Academi Gymraeg, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 2008</ref> (diweddarach yw'r llawysgrifau sy'n cynnwys yr [[Hengerdd]], ond credir fod y canu hwnnw yn perthyn i'r 6ed ganrif).
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{eginyn llenyddiaeth}}
|