Y Rhyfel Byd Cyntaf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 125:
[[Delwedd:Hedd Wyn 01(a-dg).JPG|180px|bawd|Hedd Wyn]]
 
Y bardd Cymraeg a gysylltir yn arbennig a'r rhyfel yw [[Hedd Wyn]] (Ellis Humphrey Evans, [[1887]] - [[1917]]), brodor o [[Trawsfynydd|Drawsfynydd]], a aeth yn [[milwr|filwr]] ym 15fed Bataliwn [[y Ffiwsilwyr Cymreig]] yn [[1917]] ac a laddwyd ym Mrwydr Cefn Pilkem (rhan o [[Brwydr Passchendaele|Frwydr Passchendaele]]) ar 31 Gorffennaf yn yr un flwyddyn. Enillodd [[Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol|gadair]] [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Penbedw 1917]] am ei awdl "Yr Arwr", er iddo gael ei ladd chwe mis ynghynt yn Ypres. Pan gyhoeddwyd ei fod wedi'i ladd yn y frwydr honno gorchuddiwyd y gadair â llen ddu. Dyna pam y cyfeirir at yr [[eisteddfod]] honno fel '''Eisteddfod y Gadair Ddu'''. Ysgrifennodd y bardd [[Robert Williams Parry]] gyfres nodedig o englynion er cof amdano, sy'n dechrau gyda'r linell cofiadwy "Y bardd trwm dan bridd tramor."
 
Mae'r nofel ''[[Plasau'r Brenin]]'' (1934) gan [[Gwenallt]] yn seiliedig ar brofiad yr awdur fel carcharor cydwybodol oherwydd iddo wrthwynebu gwasanaethu yn y lluoedd arfog am ei ddaliadau fel [[heddychaeth|heddychwr]]. Nofel Gymraeg arall sy'n deillio o'r rhyfel yw ''[[Amser i Ryfel]]'' gan [[:en:Thomas Hughes Jones|T. Hughes Jones]].
Llinell 136:
== Llyfryddiaeth ==
===Llyfrau Ffeithiol===
* ''[[Cymry'r Rhyfel Byd Cyntaf]]'' gan [[Gwyn Jenkins]] (Gwasg y Lolfa]], 2014)
* ''Twelve Days on the Somme Sidney Rogerson'' argraffiad 1af, 1933
* ''The Great War Explained''. Philip Stevens. Pen and Sword Books Ltd. 2012