Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cymru"

Lleihawyd o 1 beit ,  blwyddyn yn ôl
dim crynodeb golygu
Am ran helaeth o weddill y [[15g]] tynnwyd Cymru i mewn i [[Rhyfeloedd y Rhosynnau|Ryfeloedd y Rhosynnau]] a welodd y [[Lancastriaid]] a'r [[Iorciaid]] yn ymgiprys am rym yn Lloegr. Ond er gwaethaf yr ansefydlogrwydd, fel yn y ganrif flaenorol, blodeuodd diwylliant Cymru ac yn arbennig y Traddodiad Barddol gyda [[Beirdd yr Uchelwyr]] yn cael nawdd gan yr uchelwyr Cymreig. Un o'r uchelwyr hyn oedd [[Harri Tudur]], nai [[Siasbar Tudur]] a disgynnydd i [[Ednyfed Fychan]], [[distain]] [[Llywelyn Fawr]]. Yn [[1485]] glaniodd yn [[Sir Benfro]] gyda byddin o [[Ffrancod]]. Tyrrai nifer o Gymry ato a gorchfygodd [[Rhisiart III o Loegr]] ar [[22 Awst]] [[1485]] ar [[Brwydr Bosworth|Faes Bosworth]].
 
Am gyfnod gwellodd sefyllfa'r Cymry. Diddymwyd y deddfau penyd a osodwyd ar y Cymry gan y Saeson ar ddechrau'r ganrif. Dan ei fab [[Harri VIII, brenin Lloegr|Harri VIII]] cyflwynwyd y [[Y Deddfau Uno 1536 a 1543|Deddfau Uno]] a roddodd Cymru yn yr un system gyfreithiol a gweinyddol â Lloegr ond a waharddodd yr iaith [[Gymraeg]] o fywyd cyhoeddus y wlad. Ar yr un pryd newidiodd Cymru mewn cenhedlaeth neu ddwy o fod yn wlad [[Eglwys Gatholig|Gatholig]] i fod yn wlad [[Protestaniaeth|Brotestanaidd]]. Gwelwyd hefyd adfywiad llenyddol — cyfnod y [[Dadeni Dysg]] a'r [[Beibl]] [[Cymraeg]] - ond troes y bonedd fwyfwy Seisnigaidd a thyfai bwlch rhwng arweinwyr cymdeithas a'r werin. Un canlyniad o hynny oedd y mudiadau crefyddol [[Ymneilltuaeth|ymneilltuol]] a ymledai'n gyflym yn ystod y [[Yr Ail Ganrif ar Bymtheg yng Nghymru|17eg ganrif]] a'r [[Y Ddeunawfed Ganrif yng Nghymru|18fed]]. Dechreuodd Cymru droi'n wlad ddiwydiannol yn ogystal, ac erbyn diwedd y 18g a dechrau'r [[Y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg yng Nghymru|19eg ganrif]] roedd trefi diwydiannol, chwareli a phyllau glo yn nodwedd amlwg ar fywyd y wlad. Tyfodd [[llythrennedd]] ac ymledai'r [[Y Wasg Gymraeg|wasg Gymraeg]]. Cynyddai'r galw am [[Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru|Ddatgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru]] ac am [[hunanlywodraeth]] ac erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd mudiad [[Cymru Fydd]] ar ei anterth.
 
Cymysg fu ffawd y genedl yn ystod y [[Yr Ugeinfed Ganrif yng Nghymru|20fed ganrif]]. Ond er gwaethaf [[y Rhyfel Byd Cyntaf]], [[Dirwasgiad Mawr]] y [[1930au]], [[yr Ail Ryfel Byd]] a'r dirywiad ieithyddol yn y [[1970au]] a'r [[1980au]], mae Cymru heddiw'n meddu [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru|Cynulliad Cenedlaethol]] ac ymddengys fod yr iaith [[Gymraeg]] yn wynebu dyfodol mwy gobeithiol nag a ddychmygid cenhedlaeth yn ôl er mai dim ond oddeutu 18% o'r Cymry sy'n siarad Cymraeg.
[[Delwedd:Geologic map Wales & SW England CY.svg|bawd|Map o ddaeareg Cymru]]
 
Crëwyd patrwm o 13 o siroedd yng Nghymru ar ôl Deddf Uno 1536: [[Sir Fôn]], [[Sir Frycheiniog]], [[Sir Gaernarfon]], [[Sir Aberteifi]], [[Sir Gaerfyrddin]], [[Sir Ddinbych]], [[Sir y Fflint]], [[Sir Forgannwg]], [[Sir Feirionnydd]], [[Sir Drefaldwyn]], [[Sir Benfro]], [[Sir Faesyfed]], a [[Sir Fynwy]]. Y rhain ydyw siroedd hanesyddol Cymru. O dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1888, crëwyd siroedd gweinyddol oedd wedi ei seilio ar y siroedd traddodiadol, ond nid oeddynt yn union yr un fath. Yn ad-drefnu llywodraeth leol [[1974]] crëwyd wyth sir gadwedig: [[Clwyd]], [[Dyfed]], [[Gwent]], [[Gwynedd]], [[Powys]], [[Morgannwg Ganol]], [[De Morgannwg]] a [[Gorllewin Morgannwg]]. Erbyn hyn y rhain yw enwau siroedd seremonïol Cymru. Yn 1996 crëwyd 22 o awdurdodau lleol i gymryd lle'r wyth sir gadwedig, a'u henwau yn cynnwys rhai o enwau'r 13 sir hanesyddol a rhai o'r wyth sir gadwedig, a'r ffiniau yn wahanol weithiau. Mae rhai o'r trefi mawrion yn awdurdodau unedol eu hunain e.e. [[Caerdydd]], [[Abertawe (sir)|Abertawe]], [[Wrecsam (sir)|Wrecsam]].
 
Mae tri [[Parc Cenedlaethol|Pharc Cenedlaethol]] yng Nghymru: [[Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog]], [[Parc Cenedlaethol Eryri]] a [[Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro|Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro]]. Dyfarnwyd i'r cestyll [[Castell Biwmares|Biwmares]], [[Castell Harlech|Harlech]], [[Castell Caernarfon|Caernarfon]], a [[Castell Conwy|Chonwy]], ym [[1986]], ac i ardal ddiwydiannol [[Blaenafon]] ym [[2000]], statws [[Treftadaeth Byd]] [[UNESCO]] .
119

golygiad