Injan stêm: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Lao Ou (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Lao Ou (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 15:
Rhaid i'r taniwr hefyd sicrhau fod dwr yn cael ei chwistrellu i'r bwyler i gymeryd lle yr ager a ddefnyddid y yrru'r injian. Ar bob injian stem ceir o un neu ddau wydr dwr (erstalwm defnyddid feisiau profi ond nid yw rhain yn cael ei defnyddio'n aml erbyn hyn). Rhaid cadw lefel y dwr o fewen rhychwant y gwydr, canys os yw corun y tanflwch yn colli haen o ddwr y peryg yw y bydd y platiau yn cael eu gor-gynhesu. Defnyddir plygiau plwm ar y rhan fwyaf o injenni (er nid yw hyn yn gyffredin yn yr UDA). Os collir haen o ddwr uwchben corun y tanflwch yna fe dodda'r plwg a gadael stem i fewn i'r tanflwch i rybuddio fod rywbeth o'i le. Rhaid wedyn ddiffodd neu daflu'r tan. Oni wneir hyn byd y plat y corun yn meddalhau a bydd arwbwysedd y stem yn peri iddo ddod oddi ar y staes gyda canlyniad ffrwydrol.
 
Os gadewir i lefel y dwr fynd yn rhy uchel y mae peryg i dwr ynghyd a stem fynd drwy'r brif beipen stem i'r falfiau a silindrau. Gan nad ydyw dwr yn goddef cael ei wasgu i'r un raddfa a nwy fel stem y peryg felly ydyw naill ai chwythu caead oddi ar silindr neu plygu rhoden gyswllt. (RHAGORGall Ihyn DDILYN)ddigwydd trwy ewyn yn ffurfio ar wyneb y dwr. Y gair am hyn yw "preimio".
 
Trwy fod yn gelwydd wrth cyflenwi dwr a glo i'r bwyler gellir cael llawer mwy o egni allan o'r injian dros dro nag a fedrir dros y cyfnod hir. Er engraifft, os bydd allt serth ond cymharol fer i'w chael yn ystod y daith bydd y taniwr yn adeiladu tan mawr a gwneud yn siwr fod lefel y dwr yn y bywler yn uchel. Pan yn dringo'r allt - ac felly angen llawer o ynni - ni bydd yn cyflenwi dwr nac yn rhoi glo ar y tan ond bydd yn gadael i'r injian "byw ar ei bloneg" am gyfnod. (RHAGOR I DDILYN)