Yr Ysbryd Glân: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
eginyn - mwy i'w wneud
 
ehangu
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
Llinell 1:
[[Delwedd:Rom, Vatikan, Basilika St. Peter, Die Taube des Heiligen Geistes (Cathedra Petri, Bernini).jpg|bawd|Portread o'r Ysbryd Glân ar ffurf colomen wen mewn [[gwydr lliw]] gan Gian Lorenzo Bernini yng nghrongafell [[Basilica Sant Pedr]], [[Dinas y Fatican]].]]
Yn ôl [[Cristnogaeth]], trydydd person [[y Drindod]] yw'r '''Ysbryd Glân'''. Gellir ei ystyried yn bresenoldeb ysbrydol y Duwdod yn y byd.
 
Datblygodd [[diwinyddiaeth]] yr Ysbryd Glân mewn ymateb i ddadleuon yn [[yr Eglwys Fore]] ynglŷn â'r berthynas rhwng [[Duw|Duw'r Tad]] ac [[Iesu Grist|Iesu, Duw'r Mab]]. Cafodd [[Ariadaeth]] ei chondemnio gan [[Cyngor Cyntaf Nicaea|Gyngor Nicaea]] yn 325 am iddi ddysgu taw creadur oedd y Mab ac nid yn gyfartal nac yn gyd-dragwyddol â'r Tad. Yn 381 cafodd y syniad taw creadigaeth gan y Mab yw'r Ysbryd Glân ei chondemnio gan Gyngor Caergystennin. Erbyn yr 11g derbyniai'r ''filioque'' gan [[Eglwys Rhufain]], hynny yw ychwanegiad at Gredo Nicea-Caergystennin sydd yn awgrymu bod yr Ysbryd Glân yn deillio o'r Tad a'r Mab. Hwn oedd un o'r gwahaniaethau mewn athrawiaeth Gristnogol a arweiniodd at [[y Sgism Fawr]] yn 1054.
{{eginyn Cristnogaeth}}
 
Cynrychiolir yr Ysbryd Glân yn yr [[ysgrythur]] drwy drosiadau: y [[colomen wen|golomen wen]], symbol [[heddwch]] a chymod; corwynt, symbol nerth; a thafodau tân, symbol o berlewyg credinwyr.
 
{{DEFAULTSORT:Ysbryd Glan, Yr}}
{{eginyn [[Categori:Cristnogaeth}}]]