Terwyn Davies: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→Teledu Telesgop a rhaglen Ffermio: tacluso'r categoriau |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 11:
Yn Hydref 2007, fel rhan o newidiadau i ail-strwythuro gwasanaeth C2, daeth rhaglenni Steve a Terwyn i ben.
Ym mis Ebrill 2008, ymunodd Terwyn â thîm rhaglen [[Galwad Cynnar]] ar BBC Radio Cymru fel gohebydd achlysurol. Ers mis Rhagfyr 2008, mae'n gyfrannwr rheolaidd i raglen foreol [[Dafydd Du ac Eleri Sion]] ar BBC Radio Cymru, yn adolygu'r papurau dyddiol ysgafn. Hefyd,
== Gwaith teledu ==
Yn ei fywyd personol, mae Terwyn wedi gweithio i gwmni cynhyrchu [[Telesgôp|Telesgop]] ers 2001 lle dechreuodd ei yrfa fel ymchwilydd ar raglen ''[[Ffermio (rhaglen deledu)|Ffermio]]''. Bu'n gynhyrchydd rhyngweithiol, yn gyfrifol am wefan ''Ffermio'' a gwasanaeth botwm coch sy'n cyd-fynd â'r rhaglen rhwng 2005 a 2008.
Ers Mai 2009, mae Terwyn yn gweithio fel cynhyrchydd ar gyfres newydd ''Bro'' ar S4C gyda [[Shan Cothi]] a [[Iolo Williams]], lle maen nhw'n ymweld ag ardaloedd gwahanol o Gymru bob wythnos, yn dod i adnabod yr ardal honno drwy ei hanes, ei thirlun a'i phobl.
Yn ei fywyd preifat, mae Terwyn wedi dioddef o [[atal dweud]] ers yn blentyn, a gwnaeth hyn greu trafferthion iddo yn ystod ei blentyndod a'i arddegau. Oherwydd ei brofiad ar y radio ar hyd y blynyddoedd, mae bellach wedi dysgu i reoli'r atal dweud ac mae'r cyflwr bron yn diflannu'n gyfangwbl tra'i fod yn darlledu.
|