Tertullianus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
creu
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 4:
Ganwyd Quintus Septimus Florens Tertullianus yng [[Carthago|Ngharthago]], yn fab i [[canwriad|ganwriad]] Rhufeinig ac o dras [[Berberiaid|Ferberaidd]]. Arferai'r gyfraith yn [[Rhufain]], ac yno fe drodd yn Gristion yn y 190au. Fe ymwelodd â [[Gwlad Groeg]], ac o bosib [[Asia Leiaf]]. Dychwelodd i Garthago yn 197 ac yno fe briododd a daeth yn [[henuriad]] yn [[yr Eglwys Fore]].
 
Tua 207, fe ddaeth Tertullian yn bennaeth ar y Montanyddion, enwad proffwydol ac [[asgetigiaeth|asgetig]]. Cawsant eu condemnio'n [[heresi|hereticiaid]] gan yr awdurdodau eglwysig. Trodd Tertullian yn hynod o lym yn ei foeseg, ei ddisgyblaeth a'i feirniadaeth o Gristnogion uniongred. Mae'r heresi hon wedi diraddio safle Tertullian ymhlith Tadau'r Eglwys, er iddo gael dylanwad ar ddiwinyddion diweddarach megis Sant [[Cyprian]]. Derbynnir nifer o'i weithiau cynnar gan [[yr Eglwys BabyddolGatholig]], yn enwedig ei ysgrifau [[diffyniadaeth Gristnogol|diffyniadol]].
 
Mae 31 o'i weithiau wedi goroesi, a'r enwocaf oll yw ''Apologeticus'' (tua 197), diffyniad brwd o'i ffydd yn erbyn cyhuddiadau'r paganiaid o anfoesoldeb, diffyg gwerth economaidd a chynllwyn gwleidyddol. Yn ei waith, dangosir gwybodaeth o lên baganaidd a Christnogol yn yr ieithoedd Groeg a Lladin. Nodai'i waith gan hoen ei ddadleuon, coegni, [[epigram]]au, a'i ddallbleidiaeth. Oherwydd Tertullian oedd y diwinydd cyntaf i ymdrin â Christnogaeth trwy gyfrwng Lladin, fe fathodd sawl gair megis ''[[Y Drindod|trinitas]]''. Cafodd natur gyfreithiol geirfa a dadleuon Tertullian ddylanwad syfrdanol ar lên ddiwinyddol Ewrop.