Seleucus I Nicator: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: sh:Seleuk I Nikator
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn tynnu: ko:셀레우코스 1세 yn newid: vi:Seleukos I Nikator; cosmetic changes
Llinell 3:
Cadfridog [[Macedon]]aidd dan [[Alecsander Fawr]], a sylfaenydd yr [[Ymerodraeth Seleucaidd]] wedi marwolaeth Alecsander oedd '''Seleucus I Nicator''', [[Groeg (iaith)|Groeg]]: '''Σέλευκος Νικάτωρ''', "Seleucus y Buddugol" (c. [[358 CC]] - [[281 CC]]).
 
Roedd Seleucus yn fab i Antiochus o [[Orestis]] a Laodice. Yn [[333 CC]], aeth gydag Alecsander ar ei ymgyrch i Asia, a'r flwyddyn wedyn priododd Apama. Wedi marwolaeth Alecsander yn [[323 CC]], rhoddwyd swydd ''[[chiliarch]]'' i Seleucus yn [[Rhaniad Babilon]], yn cydweithio a'r rhaglaw [[Perdiccas]]. Yn ddiweddarach, roedd Seleucus yn rhan o'r cynllwyn i lofruddio Perdiccas wedi i'r ymosodiad ar [[Yr Hen Aifft|yr Aifft]] fethu.
 
Dan [[Cytundeb Triparadisus|Gytundeb Triparadisus]] yn [[321 CC]], rhoddwyd [[Babilon]] i Seleucus. Gorfodwyd ef i ffoi yn [[316 CC]], pan wnaeth [[Antigonus I Monophthalmus|Antigonus]] ei hun yn feistr ar y dwyrain. Aeth Seleucus i'r Aifft, lle bu'n cydweithredu a [[Ptolemi I Soter|Ptolemi]]. Wedi buddugoliaeth Ptolemi ym Mrwydr Gaza yn [[312 CC]], gallodd ddychwelyd i Babilon, ac ystyrir y flwyddyn yma fel blwyddyn sefydlu'r Ymerodraeth Seleucaidd. Llwyddodd i ymestyn ei awdurdod dros ran helaeth o'r dwyrain, cyn belled ag [[Afon Jaxartes]] ac [[Afon Indus]] yn [[India]]. Bu'n ymladd a [[Chandragupta]] yn yr ardal yma, ond gwnaed cytundeb heddwch rhyngddynt.
 
Cyhoeddodd ei hun yn frenin ([[basileus]]) yn [[305 CC]], a sefydlodd [[Seleucia ar y Tigris]] fel ei brifddinas. Wedi marwolaeth Apama, priododd Stratonice, merch [[Demetrius Poliorcetes]] yn [[300 CC]]. Gallodd ymestyn ei ymerodraeth tua'r gorllewin hefyd, ac erbyn 281 CC roedd yn feistr ar y rhan fwyaf o hen ymerodraeth Alecsander. Yn y flwyddyn honno, croesodd i'r Chersonese gyda'r bwriad o feddiannu [[Thrace]] a Macedonia ei hun, ond llofruddiwyd ef gan [[Ptolemi Keraunos]] ger [[Lysimachia (Thrace)|Lysimachia]]. Olynwyd ef gan ei fab, [[Antiochus I Soter]].
 
 
[[Categori:Genedigaethau 358 CC]]
[[Categori:Marwolaethau 281 CC]]
[[CategoryCategori:Alecsander Fawr]]
[[Categori:Yr Ymerodraeth Seleucaidd]]
 
Llinell 33:
[[it:Seleuco I]]
[[ja:セレウコス1世]]
[[ko:셀레우코스 1세]]
[[mr:सेल्युकस निकेटर]]
[[nl:Seleucus I Nicator]]
Llinell 47 ⟶ 46:
[[tr:I. Selevkos Nikator]]
[[uk:Селевк І Нікатор]]
[[vi:SeleucusSeleukos I NicatorNikator]]
[[zh:塞琉古一世]]