Carwyn James: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎top: Gwybodlen using AWB
BDim crynodeb golygu
Llinell 7:
Graddiodd yn y [[Gymraeg]] yng [[Prifysgol Cymru, Aberystwyth|Ngholeg Prifysgol Cymru]] [[Aberystwyth]] wrth draed [[Gwenallt]] a [[T.H. Parry-Williams]]. Roedd gwasanaeth milwrol yn orfodol ar y pryd ac felly ymunodd â'r Llynges lle y dysgodd [[Rwseg]]. Roedd yn athro o ran galwedigaeth ac yn nes ymlaen yn ddarlithydd yng [[Coleg y Drindod, Caerfyrddin|Ngholeg y Drindod]], [[Caerfyrddin]].
 
Wedi dychwelyd i [[Sir Gâr]] bu'n chwarae yn gyson i Lanelli fel maswr. Enillodd ddau gap dros Gymru yn [[1958]], ond mae'n debygol y byddai wedi ennill llawer mwy onibai ei fod yn cystadlu a [[Cliff Morgan]] am safle'r maswr yn y timtîm cenedlaethol.
 
Wedi ymddeol fel chwaraewr, daeth yn hyfforddwr Llanelli. Yn ystod ei gyfnod fel hyfforddwr enillodd Llanelli [[Cwpan Cymru|Gwpan Cymru]] bedair gwaith rhwng [[1973]] a [[1976]], ac ennill buddugoliaeth enwog dros y [[Crysau Duon]] yn [[1972]]. Ni fu erioed yn hyfforddwr tim Cymru, yn rhannol oherwydd ei fod yn credu y dylai'r hyfforddwr fod yn gadeirydd y pwyllgor dewis ac yn enwebu'r dewiswyr eraill. Dewiswyd ef yn hyfforddwr [[y Llewod]] Prydeinig ar gyfer eu taith i [[Seland Newydd]] yn [[1971]]. Enillwyd y gyfres, yr unig dro hyd yma i'r Llewod ennill cyfres yn Seland Newydd.