Yr Eryr (afiechyd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Nodyn:Afiechyd}}
 
Afiechyd heintus ydy'r '''eryr''' (Lladin: ''Herpes zoster''; Saesneg: ''Shingles'') sef ymosodiad [[feirws]] ar y corff ble ceir rash coch gyda swigod, ar un ochr i'r corff, mewn llinell. Mae'r heintio cyntaf gan y feirws ''varicella zoster'' (VZV) yn achosi [[brech ieir]], yn enwedig mewn plant a phobl ifanc. Ar ôl hyn, nid yw'r feirws yn diflannu o'r corff a gall droi'n eryr, gyda [[symtomsymptom]]au hollol wahanol i'r frech ieir gwreiddiol, weithiau flynyddoedd ar ôl yr heintiad cyntaf.
 
O fewn y [[nerf]]au mae'r varicella zoster yn byw neu weithiau o fewn celloedd eraill yn y ''dorsal root'', y nerfau cranial neu ganglion, heb i'r un symtom ddod i'r amlwg. Flynyddoedd yn ddiweddarach, gall y feirws deithio i lawr acson i heintio'r croen yn ardal y nerf honno. Mi wellith y rash, fel arfer, o fewn pythefnos i bedair wythnos, ond gall y poenau yn y nerfau barhau am fisoedd neu hyd yn oed flynyddoedd. Ni wyddir beth sy'n sbarduno hyn i gyd.