Ogof Pen-y-Fai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
mwy naturiol
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Ogof]] cynhanesyddol ger [[Rhosili]] ar y [[Gŵyr]] yw '''Ogof Paviland''' (neu '''Ogof Pen-y-Fai'''). I fod yn fanwl gywir, mae'n gyfres o ogofâu wedi'u cysylltu, a fu'n gartref i ddynion filoedd o flynyddoedd cyn Crist. Darganfuwyd yno fwyeill llaw o [[Hen Oes y Cerrig]], dannedd [[blaidd|bleiddiaid]] ac esgyrn [[arthArth frown|eirth]].
 
Ond y darganfyddiad pwysicaf oedd [[sgerbwd]] corff dynol o Hen Oes y Cerrig a adnabyddir dan yr enw "Arglwyddes Goch Pen-y-Fai". Gwnaed y darganfyddiad hwnnw gan yr hynafiaethydd ac [[archaeoleg]]ydd cynnar [[William Buckland]] yn [[1823]] yn Ogof Twll y Gafr. Credai Buckland ac eraill mai sgerbwd merch oedd hi ond dangoswyd mai gweddillion dyn ifanc tuag 21 oed ydyw. Roedd yn byw tua 29,000 o flynyddoedd yn ôl. Paentiwyd ei sgerbwd a lliw ''ochre'' coch, fel amddiffyn yn erbyn pwerau maleisus yn ôl pob tebyg (arfer cyffredin yn y cyfnod hwnnw). Dyma'r gweddillion dynol modern (''Homo sapiens sapiens'') hynaf a ddarganfuwyd ym Mhrydain a'r claddu defodol hynaf y gwyddys amdano yn [[Ewrop]] i gyd. Cafwyd [[penglog]] [[mamoth]] yn ei ymyl ond yn anffodus mae hynny ar goll erbyn hyn.