Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Basileios II"

Lleihawyd o 23 beit ,  11 o flynyddoedd yn ôl
B
robot yn newid: bg:Василий ІІ Българоубиец; cosmetic changes
B (robot yn ychwanegu: ro:Vasile al II-lea al Bizanţului)
B (robot yn newid: bg:Василий ІІ Българоубиец; cosmetic changes)
[[imageDelwedd:Basilios_II.jpg|thumb|Basileios II, llun mewn llawysgrif o'r [[11eg ganrif]].]]
 
[[Yr Ymerodraeth Fysantaidd|Ymerawdwr Bysantaidd]] rhwng [[976]] a [[1025]] oedd '''Basileios II''', hefyd '''Basil II''' ([[Groeg (iaith)|Groeg]]: Βασίλειος Β΄ Βουλγαροκτόνος, ''Basileios II Boulgaroktonos'', "lladdwr y Bwlgariaid" ([[958]] - [[15 Rhagfyr]] [[1025]]). Cyrhaeddodd yr Ymerodraeth Fysantaidd un o uchafbwyntiau ei grym yn ystod ei deyrnasiad ef.
 
Roedd Basileios yn fab i'r ymerawdwr [[Romanos II]], ond bu ei dad farw yn 963 pan nad oedd ond pump oed. Ail-briododd ei fam, Theophano, ag un o gadfridogion Romanos, a ddaeth yn ymerawdwr fel [[Nikephoros II]] Phokas. Llofruddiwyd Nikephoros yn 969, a daeth cadfridog arall, [[Ioan I Tzimisces]], yn ymwerawdwr. Erbyn iddo ef farw ar [[10 Ionawr]], [[976]], roedd Basileios yn ddigon hen i ddod i'r orsedd,
 
Ar ddechrau ei deyrnasiad, roedd gweinyddiaeth yr ymerodraeth yn nwylo yr [[eunuch]] [[Basileios Lekapenos]], oedd yn fab anghyfreithlon i'r ymerawdwr [[Romanos I]]). Roedd dau o dirfeddianwyr mawr [[Asia Leiaf]], [[Bardas Skleros]] a [[Bardas Phocas|Bardas Phokas]], mewn gwrthryfel yn erbyn yr ymerodraeth. Arweiniodd Basileios y fyddin yn eu herbyn a'u gorchfygu, Skleros yn 979 a Phokas yn 989. Gwnaeth gynghrair a [[Vladimir I, tywysog Kiev]], a yrrodd lawer o filwyr iddo. Yn fuan wedyn, alltudiwyd Basileios Lekapenos.
Roedd Basileios yn filwr galluog, a bu'n ymladd llawer yn erbyn yr Arabiaid, oedd yn gwarchae ar [[Aleppo]] ac yn bygwth [[Antioch]]. Enillodd Basileios nifer o fwydrau yn eu herbyn yn [[Syria]] yn 995, gan anrheithio dinasoedd cyn belled a [[Tripoli]] ac ychwanegu'r rhan fwyaf o Syria at yr ymerodraeth.
 
Bu'n ymladd llawer yn erbyn [[Samuil, ymerawdwr Bwlgaria]] hefyd, gan warchae ar Sredets ([[Sofia]]) yn 986. Methodd gipio'r ddinas, a gorchfygwyd ef ym Mrwydr Trayanovi Vrata ar y ffordd yn ôl i Thrace. Collwyd [[Moesia]] i'r Bwlgariaid am gyfnod, ond gallodd Basileios ei hennill yn ôl yn 1001 - 1002. Cipiodd [[Skopje]] yn 1003 a [[Durazzo]] yn 1005. Ar [[29 Gorffennaf]], [[1014]], enillodd Basileios fuddugoliaeth fawr dros y Bwlgariaid ym Mrwydr Kleidion. Dywedir iddo gymeryd 15,000 o garcharorion, a dallu 99 o bob cant ohonynt. Ildiodd Bwlgaria yn derfynol yn 1018, ac yn ddiweddarach ildiodd y [[Serbiaid]] hefyd, gan ddod a ffîn yr ymerodraeth at [[Afon Donaw]] am y tro cyntaf mewn pedair canrif. Bu hefyd yn ymladd yn erbyn y [[Khazar]], a chipiodd dde y [[Crimea]] oddi wrthynt.
 
Yn ddiweddarach, bu'n ymladd yn erbyn y [[Persia|Persiaid]]id, gan ennill [[Armenia]] yn ôl i'r ymerodraeth am y tro cyntaf ers dwuy ganrif. Concrwyd rhan o dde [[yr Eidal]] hefyd, a phan fu Basileios farw ar [[15 Rhagfyr]] [[1025]], roedd ar ganol cynllunio ymgyrch i ad-ennill ynys [[Sicilia]].
 
{| border=2 align="center" cellpadding=5
{{Cyswllt erthygl ddethol|it}}
 
[[bg:Василий IIІІ (Византийска империя)Българоубиец]]
[[ca:Basili II]]
[[cs:Basileios II. Bulgaroktonos]]
56,694

golygiad