Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Lang Lewys"

No change in size ,  13 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
(Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Bardd Cymraeg o Forgannwg oedd '''Lang Lewis''' (bl. tua 1480 - 1520), y cyfeirir ato hefyd fel "'''Lewis Hir'''" gan ei gyfoeswr [[Iorwerth Fyn...')
 
BNo edit summary
[[Cywydd]]au ymryson yw'r unig rai o gerddi Lang sydd ar gael heddiw. Mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn ymwneud â chael nawdd ym mhlasdy Syr Wiliam Mathau yn [[Radur]] ac yn nhŷ Siôn ab Ieuan, trysorwr [[Eglwys Gadeiriol Llandaf]], swydd a sefydliad gyda thraddodiad hir o noddi'r beirdd. Ar sail hyn gellir derbyn mai gŵr o gyffiniau [[Caerdydd]] oedd Lang. Dywedir ei fod yn [[clera]] ar hyd y 'pyrtwai', sef y ffordd fawr a redai ar draws Morgannwg.<ref>G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948), tud. 60.</ref>
 
Ymddengys i Lang ennill enw iddo'i hun fel ymrysonwr a dychanwr y tu allan i Forgannwg ac mae'n bosibl ei fod wedi crwydro mor bell â'r Gogledd hefyd. Dyma enghraifft o'i ddawn ddychanol, wrth iddo ddisgrifio clerwr eglwysig tew, anwybodus o'r enw 'Syr' Gruffudd Fychan, un o'r rhai a grwydrai'ir priffyrdd i ganu cerddi moesol a phregethu:
 
:Mal llyffan y cân mewn côr,