Lang Lewys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B wedi symud Lang Lewis i Lang Lewys: ceir y ddwy ffurf ond mae Lewys yn fwy safonol
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Bardd Cymraeg o [[Morgannwg|Forgannwg]] oedd '''Lang Lewys''' (bl. tua 1480 - 1520), y cyfeirir ato hefyd fel "'''Lewys Hir'''" gan ei gyfoeswr [[Iorwerth Fynglwyd]]. Un o'r [[Glêr]] oedd Lang LewisLewys, sef y dosbarth o feirdd 'answyddogol' a grwydrai Gymru yn yr Oesoedd Canol.
 
Yn ôl tystiolaeth Iorwerth Fynglwyd, a gai gryn hwyl am ei ben wrth ei ddychanu, roedd gan Lang wraig o'r enw Lliwelydd. Roedd ganddo enw am fod yn glerwr llawen ac er bod Iorwerth, fel bardd proffesiynol trwyddedig, yn ei ddychanu mae'n amlwg ei fod yn adnabyddus i feirdd proffesiynol eraill Morgannwg ac yn well fardd na'r rhelyw o'i ddosbarth.<ref>G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948), tud. 59.</ref>