Yr Eglwys Uniongred Syrieg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Symudodd Adam y dudalen Eglwys Uniongred Syriaidd i Yr Eglwys Uniongred Syrieg |
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 4:
Mae'r eglwys yn olrhain ei hanes i'r 5g a'r 6g, pryd wrthododd nifer o Gristnogion yn Syria [[patriarch|batriarchiaid]] [[Antioch]] oedd yn cefnogi datganiadau [[Cyngor Chalcedon]] (451), sy'n dal taw dwy natur a geir ym mherson [[Iesu Grist]], y dynol a'r dwyfol. Proffesai'r gwrthodwyr athrawiaeth [[miaffysiaeth|miaffysaidd]], yn debyg i Gristnogion eraill yn yr Aifft, [[Ethiopia]], [[Armenia]] a'r [[India]] ac yn dilyn dysgeidiaeth [[Sant Cyril o Alecsandria]] bod dwyfoldeb Iesu Grist ynghlwm â'i gnawd, ac felly un natur arbennig oedd ganddo. Sefydlasant batriarchaeth eu hunain yn Antioch, ar wahân i'r [[Calcedoniaid]]. Cafodd Sant Jacob Barabaeus, Esgob Edessa, ddylanwad cryf ar hanes cynnar y gymuned.
Yn yr 17g, ymunodd lleiafrif o Gristnogion Syriaidd â'r [[Eglwys Babyddol]], gan sefydlu'r [[Eglwys Gatholig Syriaidd]]. Mabwysiadodd yr eglwys ei enw cyfredol yn y flwyddyn 2000, gan ddefnyddio'r gair "[[Syrieg]]" i wahaniaethu rhyngddi a'r Eglwys Gatholig Syriaidd. Cyfeiria'r enw at y dafodiaith [[Aramaeg]] a ddefnyddir yn iaith [[litwrgi|litwrgïaidd]] gan yr eglwys,
== Cyfeiriadau ==
|