Derry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
delwedd
Llinell 1:
[[Delwedd:Derry arms 2003.png|bawd|150px|Arfbais Derry]]
[[Delwedd:Derry mural.jpg|bawd|250px|Murlun enwog ar gyrion "Derry Rydd", o gyfnod yr Helyntion.]]
Dinas yng [[Gogledd Iwerddon|Ngogledd Iwerddon]] yw '''Derry''' neu '''Londonderry''' ([[Gwyddeleg]]: ''Doire'' neu ''Doire Cholm Chille''). Mater dadleuol yw pa ffurf ar yr enw a ddefnyddir. Fel rheol, mae'r [[UndebwyrUnoliaethwyr]] yn galw'r ddinas yn "Londonderry" a chenedlaetholwyr yn ei galw'n "Derry".
 
Saif yr hen ddinas ar lan orllewinol [[Afon Foyle]]; mae'r ddinas erbyn hyn ar y ddwy lan. Roedd poblogaeth y ddinas ei hun yn [[2001]] yn 83,652, gyda 90,663 yn yr ardal ddinesig. Mae'n agos i [[Swydd Donegal]] a ffin [[Gweriniaeth Iwerddon]]. Yn draddodiadol, sefydlwyd y ddinas gan y sant [[Colum Cille]]. Y digwyddiadau enwocaf yn ei hanes yw [[Gwarchae Derry]] yn [[1688]] - [[1689]] a ''[[Bloody Sunday Derry 1972|Bloody Sunday]]'' ar ddydd Sul, [[30 Ionawr]] [[1972]], pan saethwyd 13 o brotestwyr hawliau sifil yn farw gan filwyr Prydeinig, gyda un arall yn marw bedwar mis yn ddiweddarach o ganlyniad i anafiadau gafwyd yn y digwyddiad.