Falls Road: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TobeBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: en:Falls Road, Belfast
B trwsio dolen
Llinell 2:
Lleolir y '''Falls Road''' (o'r enw [[Gwyddeleg]]: '''''Bóthar na bhFál''''' sef "ffordd y cloddiau") yng ngorllewin [[Belffast]], [[Gogledd Iwerddon]]. Dyma'r brif ffordd yng ngorllewin Belffast, sy'n rhedeg o Stryd Divis (''Divis Street'') yng nghanol y ddinas i Andersonstown yn y maesdrefi. Mae ei enw yn gysylltiedig â chyfnod [[Helyntion Gogledd Iwerddon]] a chymunedau [[Yr Eglwys Gatholig Rufeinig|Catholig]] a [[Cenedlaetholdeb Gwyddelig|Gweriniaethol]] y ddinas. Mae'r ardal gyfagos o gwmpas Ffordd Shankill (''Shankhill Road'') yn ardal [[Protestaniaeth|Brotestannaidd]] yn bennaf, a wahanir o'r Falls gan 'linellau heddwch'. Dyma'r rhan o Felffast lle ceir y nifer uchaf o siaradwyr [[Gwyddeleg]].
 
Mae pobl a gysylltir â'r Falls Road yn cynnwys [[James Connolly]], a arosodd yno am gyfnod ar ddechrau'r 20fed ganrif, ac [[Eamon Dede Valera]], a sefylloddsafodd fel ymgeisydd y Falls yn etholiad cyffredinol 1918.
 
Ar ddiwedd y 1960au, dechreuodd nifer o Gatholigion Gogledd Iwerddon ymgyrchu dros gael [[hawliau sifil]]. Roedd hyn yn cynnwys galw am ddiwedd i'r gwahaniaethu ar sail crefydd yn achos tai a gwaith. Gwrthwynebwyd [[Mudiad Hawliau Sifil Gogledd Iwerddon]] gan rhai [[Unoliaethwyr]]. Ymosodwyd ar ardaloedd Catholig. Llosgwyd sawl stryd o gwmpas y Falls Road gan 'teyrngarwyr' yn Awst 1969 ac anfonodd [[llywodraeth y DU]] y [[Fyddin Brydeinig]] i strydoedd y Falls Road. Cawsont groeso i gychwyn gan drigolion y Falls, yn y gobaith o gael amddiffyn rhag yr ymosodiadau, ond newidiodd ei hagwedd wrth iddynt farnu fod y Fyddin yno yn eu herbyn nhw. Yn 1970 cafwyd yr hyn a alwyd y 'Falls Curfew'. Yn dilyn ymosodiad gan y [[Provisional IRA]], amgylchynwyd strydoedd y Falls, sy'n gartref i tua 10,000, gan 3000 o filwyr Prydeinig, a ollyngodd [[nwy CS]]. Dilynodd brwydr ffyrnig rhwng yr [[IRA Swyddogol]] a'r Fyddin Brydeinig. Lladdwyd pedwar o sifiliaid Catholig gan y Fyddin mewn penwythnos. Am 30 mlynedd ar ôl hynny bu gan y Fyddin Brydeinig bresenoldeb sylweddol yn y Falls Road, gyda gwersyll i gadw golwg ar y Falls ar loriau uchaf y Tŵr Divis a wasanaethid gan hofrenyddion: cafodd hyn ei symud yn Awst 2005.
 
==Dolenni allanol==