Brîd o gi arbennig yw'r '''Newfoundland''', sy'n cael ei enwi ar ôl ynys [[Newfoundland (ynys)|Newfoundland]]. Prif ysgogydd a chefnogwr ariannol y wladfa arfaethedig oedd [[William Vaughan]] (1575 - 1641), gŵr bonheddig a llenor o'r [[Gelli Aur]], [[Sir Gaerfyrddin]].
Ar ôl gweld cymaint oedd y tlodion yn dioddef yn ei sir enedigol a chyn lleied o obaith oedd iddynt wella eu sefyllfa, penderfynodd Vaughan geisio sefydlu gwladfa iddynt yn yr Amerig. Prynodd barsel o dir ar orynys Avalon yn Newfoundland (yn nwyrain [[Canada]] heddiw) gan y London and Bristol Company yn 1616 a threfnodd, ar ei draul ei hun, i anfon ymsefydlwyr yno. Aeth y criw cyntaf allan yn 1617 ac ymsefydlasant ar safle tref [[Renews]] heddiw. Rhoddwyd yr enw Cambriol ar y wladfa newydd (enw sy'n seiliedig ar y gair [[Cambria]], yr enw [[Lladin]] am [[Cymru|Gymru]]).
Ond methiant fu'r wladfa o fewn ugain mlynedd, yn bennaf oherwydd yr [[hinsawdd]] oer a oedd yn gwneud hi'n anodd i [[amaeth]]u'n llwyddianus yno a diffyg arweinyddiaeth ac offer amaethu.