Gruffudd ap Llywelyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5:
Yr oedd Gruffudd yn fab i [[Llywelyn ap Seisyll]], oedd wedi teyrnasu ar [[Teyrnas Gwynedd|Wynedd]], ac yn ddisgynnydd i [[Rhodri Mawr]], ond nid oedd yn aelod o frenhinllin arferol Gwynedd, disgynyddion [[Idwal Foel]]. Pan fu farw [[Iago ap Idwal ap Meurig]] yn [[1039]], gallai Gruffudd gipio Gwynedd. Bu'n ymladd yn llwyddiannus yn erbyn [[Mercia]], yna ymosododd ar [[Deheubarth]]. Erbyn [[1044]] yr oedd wedi concro Deheubarth, ond collodd ei afael ar y deyrnas honno yn [[1047]]. Yr oedd yn awr wedi dod i gytundeb â Mercia, ac enillodd lawer o diriogaeth ar [[Y Mers|y gororau]], gan gipio a llosgi [[Henffordd]] yn [[1055]].
 
Yn yr un flwyddyn enillodd Ddeheubarth yn ôl, ac erbyn hyn gallai hawlio bod yn frenin ar Gymru gyfan bron. Derbyniwyd ei hawl dros Gymru gan y [[Saeson]], a daeth i gytundeb ag [[Edward y Cyffeswr]]. Yn 1063 ymosodwyd arno gan fyddin dan arweiniad [[Harold Godwinson]], ac fe lofruddiwyd Gruffudd gan ei wŷr ei hun, ac anfonwyd ei ben i Harold. Rhannwyd ei deyrnas ymhlith nifer o olynwyr. Dywed Brut Wlster mai [[Cynan ap Iago]], tad [[Gruffudd ap Cynan]], a'i lladdodd.
 
Yn ôl ''[[Llyfr Domesday]]'', roedd gan Gruffudd ap Llywelyn fardd o'r enw [[Berddig]] yn ei lys.
 
{| border=2 align="center" cellpadding=5