Ciwb: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Newydd
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 19:22, 12 Medi 2018

Mewn geometreg, sy'n rhan o fathemateg, mae'r ciwb yn wrthrych solat tri dimensiwn â chwe arwyneb (neu ochr) gyda 3 ohonynt yn cyfarfod ym mhob fertig (cornel). Y gair ar lafar gwlad amdano'n amal ydy "bocs" neu "flwch".

Ciwb yn toi o rwyd i fod yn hecsahedron rheolaidd

Y ciwb yw'r unig hecsahedron rheolaidd ac mae'n un o'r pum solid Platonig. Mae ganddo, felly, 6 arwyneb, 12 ymyl ac 8 feretig. Mae'r ciwb hefyd yn paralelepiped sgwâr, yn giwboid hafalochrog ac yn rhombohedron-dde. Mae'n brism sgwâr reolaidd mewn tri chyfeiriadaeth (orientaition), ac mae hefyd yn trapesohedron trigonol mewn pedwar cyfeiriad.

Mae'n eitha tebyg i'r octahedron yn ei gymesuredd ciwbig neu octahedrol. Y ciwb yw'r unig polyhedron amgrwm sydd â'i wynebau i gyd yn sgwariau.

Tafluniadau orthogonal

Mae gan y ciwb bedwar tafluniad orthogonal (orthogonal projections) wedi eu canoli ar fertig, ymylon, arwynebau ac yn normal i'w ffurf fertig. Mae'r cyntaf a'r trydydd yn cyfateb i A2 a B2 plân Coxeter.

Tafluniadau orthogonal
Canolir ar Arwyneb Fertig
Planau Coxeter B2
 
A2
 
Cymeruredd
y Tafluniadau
[4] [6]
Edrychiad ar ogwydd    

Gogwydd sfferig

Gellir cynrychioli'r ciwb hefyd drwy ogwydd sfferig, a'i daflunio ar blân drwy dafluniad stereograffig. Mae'r tafluniad hwn yn [[Map gydymffurfiol, ac felly'n cadw'r onglau ond nid yr arwynebedd na'r hyd. Taflunir y llinellau syth fel bwa crwm ar y sffêr.

   
Tafluniad orthograffig Tafluniad stereograffig

Cyfesurynnau Cartesaidd

Ar gyfer ciwb a ganolwyd ar ei dardd, gyda'i ymylon yn gyfochrog i'r echelin, a chyda hyd yr ymylon i gyd yn 2, yna mae'r cyfesurynnau Cartesaidd yn

(±1, ±1, ±1)

ond mae'r yn cynnwys holl bwyntiau (x0, x1, x2) gyda −1 < xi < 1 am bob i.

Yr hafaliad o fewn R3

Mewn geometreg dadansoddol, arwyneb ciwb gyda'i ganol yn (x0, y0, z0) a hyd ei ymylon yn 2a yw 'locws' y pwyntiau (x, y, z) fel bod

 

Cyfeiriadau